Click on the experience tab above to watch more videos
Running times approximately 2 hours 55 minutes
Read an article by Phillip Pullman on Carmen
Supported by the Friends of WNO and WNO Sponsors' Group
Act 1
Sgwâr yn Seville, rhwng ffatri dybaco a chanolfan milwyr.
Mae’r Cyrnol Moralès a milwyr eraill yn gwylio’r dyrfa o bobl sy’n mynd heibio ac yn siarad amdanyn nhw.
Mae Micaëla, merch o bentref José, wedi dod i chwilio amdano. Mae Micaëla yn gwrthod gwahoddiad Morales i aros amdano ac mae’n ymadael.
José sy’n arwain y milwyr. Mae Moralès yn sôn wrth José am yr ymwelydd.
Mae’r Lifftenant Zuniga yn holi José am y merched sy’n gweithio yn y ffatri dybaco. Clywn y gloch yn canu ar ddechrau’r egwyl. Mae merched y ffatri’n dannod bod serch yn anghyson. Mae’r dynion yn mynd i edrych am eu ffefryn, y sipsi Carmen.
Mae Carmen yn gwrthod addo y bydd hi’n caru’r un ohonyn nhw: ni all neb orchymyn serch. Mae Carmen yn sylwi ar José, sy’n ei hanwybyddu. Pan wêl Micaëla yn dod ato, mae’n cuddio’r blodyn mae Carmen wedi ei daflu ato.
Daw Micaëla ag arian, cusan a llythyr oddi wrth ei fam. Mae’r llythyr yn ei argymell i briodi Micaëla. Mae ffrwgwd yn digwydd yn y ffatri.
Mae Zuniga yn gorchymyn José i fynd i weld beth sydd wedi digwydd. Mae José yn restio Carmen gan ddweud ei bod wedi cael cweryl gyda merch arall yn y ffatri a niweidio wyneb y ferch. Mae Carmen yn gwrthod dweud dim ac mae’n canu cân sarhaus. Gyda José yn ei gwarchod, mae’n esgus ei bod hi hefyd yn dod o wlad y Basg. Gan nad yw hynny’n tycio, mae’n dweud wrth José ei bod yn amlwg ei fod yn ei charu. Gan ei bod yn cael ei gwahardd rhag siarad, mae hi’n canu ei bod am fynd i dafarn Lillas Pastia gyda’i chariad newydd. Mae José yn cytuno i’w helpu i ddianc, os bydd hi’n addo ei garu.
Daw Zuniga yn ôl gyda gwarant i restio Carmen, ac mae’n gorchymyn José i fynd â hi i ffwrdd. Mae José wedi datod y rhaff sy’n ei dal, mae hi’n ei wthio i’r llawr ac yn dianc.
Act 2
Tafarn Lillas Pastia
Mae Carmen, Frasquita a Mercédès yn canu cân sipsi a Zuniga yn ceisio fflyrtian gyda Carmen. Mae’n dweud wrthi fod José newydd gael ei ryddhau, ar ôl colli ei swydd a chael ei garcharu am adael iddi hi ddianc.
Clywn y dyrfa’n cyfarch Escamillo, yr ymladdwr teirw, wrth iddo gyrraedd. Mae e’n cydnabod cyfarchiad Zuniga drwy ddisgrifio’n fyw iawn ymladdfa’r Toreador yn y talwrn teirw. Mae’n sylwi ar Carmen gan awgrymu ei fod yn fodlon aros iddi ei garu.
Mae Zuniga yn tarfu arnyn nhw i esbonio’i fod yn gadael ond y bydd yn dod nôl. Mae Carmen yn ei gynghori i beidio.
Daw’r lladron Le Dancaïre a Le Remendado i ymuno â’r sipsiwn Carmen, Mercédès a Frasquita gan fynnu eu bod yn gwneud eu rhan mewn ymgyrch smyglo.
Mae Carmen yn gwrthod gadael ar unwaith gan ei bod mewn cariad. Mae’r gweddill wedi drysu ac yna’n ei gwatwar.
Wrth iddo ddod i chwilio am Carmen, clywn leisiau’n canu cân werin.
Mae Carmen yn dweud wrth José y caiff ei wobr am ei rhyddhau ac yn dawnsio iddo ef yn unig. Mae’r cyrn yn seinio, sy’n arwydd i José ei bod yn rhaid iddo ddychwelyd i’r barics. Mae Carmen yn teimlo’n euog ei bod wedi addo caru dyn sydd wedyn yn rhoi dyletswydd yn gyntaf. Mae José yn ceisio gadael, ond oherwydd ei geiriau sarhaus hi mae’n aros i egluro’i fod yn ei charu. Mae hi’n ei annog i redeg i ffwrdd o’r fyddin ac ymuno â hi a’r lladron eraill i fyw’n rhydd. Mae José yn benderfynol o’i gadael, ond yn sydyn daw Zuniga i mewn a gorchymyn José yn ôl i’r barics. Mae Carmen yn galw ar Le Remendado a Le Dancaïre, sy’n cymryd arf y milwr ac yn ei fychanu. Caiff José ei orfodi i ymuno â’r lladron.
Act 3
Yn y mynyddoedd
Mae’r lladron, a José a’r sipsiwn yn eu plith, yn cael hoe ar eu siwrnai. Aiff Le Dancaïre a Remendado i ffwrdd i sicrhau nad oes neb o gwmpas. Mae Carmen a José wedi bod yn cweryla a nawr mae José yn gofyn iddi gymodi. Mae Carmen yn ceisio dweud wrtho nad yw’n perthyn ymhlith ei phobl ac y byddai’n deall yn iawn pe bae’n ei gadael ac yn dychwelyd at ei fam a’i gartref.
Mae’n ymbellhau oddi wrtho, gan gredu y bydd yn achosi ei marwolaeth. Mae José yn eiddigeddus. Mae Mercédès a Frasquita yn darllen eu ffortiwn yn y cardiau. Ond ni all Carmen weld dim ond cadarnhad o’i hofnau, sef ei marwolaeth hi a José.
Daw Le Dancaïre yn ôl gan egluro’i gynllun i osgoi’r dynion tollau: bydd y tri sipsi yn cymryd un yr un o’r swyddogion tollau.
Daw Micaëla i mewn gyda chydymaith i chwilio am José. Mae’n galw ar Dduw i roi nerth iddi wynebu Carmen. Clywir sŵn dryll, ac mae hi’n mynd i guddio.
Mae José yn saethu, ond yn methu taro rhywun sy’n dod i mewn, ond Escamillo yw hwnnw. Heb sylweddoli â phwy y mae’n siarad, mae’r toreador yn esbonio’i fod wedi dod i chwilio am Carmen, ar ôl clywed ei bod hi a José wedi cweryla. Mae’r ddau’n ymladd.
Daw’r smyglwyr yn ôl a gwahanu’r ddau. Mae Escamillo yn gwahodd pawb i ddod i’w weld yn yr ymladdfa teirw yn Seville: bydd pwy bynnag sy’n ei garu yn dod. Mae José yn llawn cenfigen ac mae’n bygwth Carmen unwaith eto. Mae Micaëla yn cuddio. Mae wedi dod i atgoffa José am ei fam, sy’n disgwyl yn eiddgar iddo ddychwelyd. Mae Carmen hefyd yn ei annog i fynd yn ôl, ond mae José yn tyngu na fydd e’n ymadael. Yna mae Micaëla yn datgelu bod ei fam ar farw, ac yn dyheu am gael maddau iddo. O’r diwedd mae José yn mynd yn ôl gyda Micaëla. Clywn lais Escamillo yn y pellter.
Act 4
Y tu allan i’r talwrn teirw yn Seville
Mae tyrfa wedi crynhoi cyn yr ornest. Yn eu plith mae Zuniga, Frasquita a Mercédès.
Mae’r orymdaith yn cyrraedd ar ei ffordd i’r talwrn teirw, a’r dyrfa’n curo dwylo. Mae Escamillo a Carmen yn cwrdd. Mae hi’n dweud wrtho ei bod yn ei garu. Daw’r dyrfa i mewn i’r arena, ac er bod Mercédès a Frasquita wedi rhybuddio Carmen i fod yn ofalus, mae’n aros i weld José.
Mae José yn erfyn arni i ddod yn ôl ato, ond mae hi’n gwrthod dweud celwydd na chyfaddawdu, ac mae’n mynnu bod eu cariad ar ben, er ei holl fygythion a’i addewidion e. Oddi ar y llwyfan clywn y dyrfa’n cydnabod buddugoliaethau Escamillo yn y cylch. Mae José yn gorfodi Carmen i ddweud ei bod yn caru Escamillo, ond mae hi’n taflu’r fodrwy mae José wedi ei rhoi iddi. Mae e’n lladd Carmen ac yna’n ei ladd ei hun.