Amdanom ni

Cyfarwyddwyr Artistig David Pountney
Rheolwr Gyfarwyddwr Leonora Thomson
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus

Arweinydd Llawryfog Carlo Rizzi

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gweddnewid bywydau drwy rym opera. Rydyn ni'n teimlo'n angerddol am opera, ac rydym am rannu'r angerdd hwnnw gyda chynifer o bobl â phosibl. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy berfformiadau sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys opera wedi'i llwyfannu'n llawn a chyngherddau sy'n cyfuno ychydig o antur gyda'r ansawdd uchaf un. Rydyn ni'n sicrhau bod cyfle gan bawb i brofi ein perfformiadau drwy brisiau tocynnau rhesymol. Y tu hwnt i'r theatr rydyn ni'n cysylltu â phobl drwy ein gwaith cymunedol ac addysg, a phrosiectau digidol.