Blog DP: Cafalîr

Posted on Llun, 2013-04-22 14:31 by David Pountney

Rydw i wedi derbyn gwobr hardd iawn gan lywodraeth gwlad Pwyl sy’n fy ngwneud yn Gafalîr, er yn un di-geffyl. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth i’r ffaith fod Gŵyl Bregenz, trwy ffawd yn hytrach na thrwy gynllun cyfrwys, wedi dod yn rhyw fath o ganolfan i gerddoriaeth y Pwyliaid alltud.  Fe gyflwynon ni dymor yn canolbwyntio ar Karel Szymanowski (Krol Roger) yn 2009, cyn ailddarganfod Mieczyslaw Weinberg (Y Teithiwr) yn 2010, a byddwn yn cyflwyno premiere byd gwaith André  Tchaikowsky (dim perthynas!) “Marsiandwr Fenis”, ynghyd ag amrywiol weithiau eraill, yr haf hwn. Dan ddyletswydd i ddweud gair neu ddau i gydnabod derbyn yr anrhydedd braf iawn hwn, canolbwyntiais ar ganlyniadau allfudo.


Mae gennym dipyn o obsesiwn ar hyn o bryd ar y canlyniadau i ni yn sgil derbyn mewnfudwyr, gan ofni y gallai ein statws fel gwlad gyfoethog (sy’n dal yn wir mewn unrhyw olwg wrthrychol ar y byd, er gwaethaf dirwasgiad ac ati) alluogi pobl eraill llai ffodus i gipio tamaid o’n lwc dda ni. Felly mae’n adeg dda i roi’r agwedd grintachlyd hon o’r neilltu ac ystyried beth sy’n digwydd i bobl sy’n gadael eu mamwlad. Yn hyn o beth, mae Gwlad Pwyl yn dal drych i dynged Ewrop yn yr 20fed ganrif.


Yn achos Szymanowski, uchelwr a anwyd yng Ngwlad Pwyl dan deyrnasiad y Rwsiaid mewn ardal a ddaeth yn rhan o wlad Pwyl ar ôl y Rhyfel Mawr, ond sydd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn rhan o’r Wcráin, nid yw’n hollol glir ai gadael ei wlad a wnaeth, ynteu ai ei wlad a’i gadawodd yntau, o ystyried cyflwr bregus y ffiniau symudol yn y rhan honno o’r byd. Ym mlynyddoedd cynnar ei fywyd, a’r Tsariaid wedi meddiannu Gwlad Pwyl, fe’i gorfodwyd gan yr awyrgylch diwylliannol llethol i fynd dramor i geisio’i ddyfodol fel cerddor, a diolch i’w ddoniau fel pianydd penigamp daeth yn ddinesydd byd go iawn. Mae’r bydolwg cosmopolitan hwn wedi’i wreiddio mewn llawer o’i weithiau, yn enwedig Krol Roger lle trawsgludir ei hunaniaeth Bwylaidd drwy Sicilia i gyfoeth cyfriniol ac erotig y diwylliant Groegaidd ac Arabaidd.  Dychwelodd i Wlad Pwyl yn ystod ei chyfnod byr o annibyniaeth rhwng y ddau ryfel byd, ond bu farw o’r diciáu yn y Swistir ym 1937. Yn ddiweddarach, byddai effaith pensel las Stalin yn Yalta yn arwain at fath o alltudiaeth ar ôl ei farwolaeth yn y weithred wrthun a sinigaidd honno o drosglwyddo tiroedd a phobloedd a symud ffiniau Rwsia a Gwlad Pwyl tua’r gorllewin.


Ni ddioddefodd Weinberg brofi’r ddaear yn symud dan ei draed, ond yn hytrach dioddefodd draed yn trampio’n beryglus drosti ym 1939, a gweodd ei ffordd drwy’r goresgynwyr Natsïaidd i gyrraedd y ffin Sofietaidd.  Yno, fe ildiodd ei enw – wrth i filwr diamynedd ar y ffin ysgrifennu Moshe yn lle Mieczyslaw – gweithred sy’n rhwystr iddo gael cydnabyddiaeth hyd heddiw wrth i chwilotwyr gael eu drysu gan gofnodion yn Google neu Amazon dan Moshe Vainberg neu Mieczyslaw Weinberg. Arhosodd Weinberg yn yr Undeb Sofietaidd am weddill ei oes, ac i bob pwrpas daeth yn gyfansoddwr Sofietaidd, symudiad a arweiniodd at iddo gael ei anwybyddu gan ei gyd-Bwyliaid a oedd, wrth gwrs, ar ôl y rhyfel yn byw dan oresgyniad eu “rhyddhawyr”. Pan ddaeth cwymp yr Undeb Sofietaidd, doedd Weinberg ddim yn perthyn i neb, a suddodd i ddifancoll – peth hynod i gyfansoddwr gweithiau aruthrol a fu yn eu dydd yn destun parch mawr.


Collodd André Tchaikowsky ei enw hefyd, yn enwog felly – rhoddodd ei nain enw ei hoff gyfansoddwr ar y papurau ffug a ddefnyddiodd i’w smyglo allan o’r geto yn Warsaw pan oedd yn blentyn pum mlwydd oed. Krauthammer oedd ei enw gwreiddiol, felly mae’n debyg y byddai’r dynion marchnata’n dweud iddi wneud tro da â’r bachgen!  Wedi tair blynedd arswydus arall o guddio yng Ngwlad Pwyl drwy weddill y rhyfel, datblygodd yn bianydd meistrolgar, ond un serch hynny a ddioddefai iselder ac ansadrwydd meddyliol dealladwy. Doedd bod yn ddyn cyfunrywiol ac yn ysglyfaeth i iselder ddim yn rysáit ar gyfer bywyd braf yng Ngwlad Pwyl Sofietaidd, felly dyma ddianc i Loegr, ac ymroi mwyfwy i gyfansoddi yn hytrach na chwarae cyngherddau, ac eithrio pan oedd yn daer am arian – sef yn aml!  Cyfansoddodd goncerto i’r piano, dau bedwarawd, ambell gân a cherddoriaeth siambr, ac opera cyfan – Marsiandwr Fenis – a gaiff ei berfformiad cyntaf yn Bregenz yr haf hwn. Bu farw’n gynnar – yn 46 oed – ac er gwaethaf ymdrechion gorau sawl cyfaill teyrngar, doedd ganddo ddim statws swyddogol na lladmeryddion ac felly, fel Weinberg, suddodd i ddifancoll.


Er gwaethaf hyn oll, rhaid dweud bod allfudo wedi bod o les i’r tri. Roedd Szymanowski’n ffigur rhyngwladol hynaws, soffistigedig. Cydiodd Weinberg, hyd yn oed wedi iddo gael ei garcharu dan Stalin, at y ffaith fod yr Undeb Sofietaidd wedi achub ei fywyd, hyd yn oed os cymerodd sawl bywyd arall.  A chanfu personoliaeth fywiog a byrlymus André fynegiant mewn hinsawdd Seisnig a oedd ychydig yn fwy rhyddfrydig, ac yn bennaf oll fe ganiatawyd iddo fynegi yn y modd dwysaf un ei obsesiwn gyda Shakespeare.


Ond talodd y ddau olaf, yn enwedig, bris esgeulustod, a chael eu tawelu i bob pwrpas gan absenoldeb unrhyw fath o statws swyddogol. Gall statws swyddogol fod yn fantais amheus, sydd efallai gan amlaf yn gwarchod enwau sy’n haeddu mynd yn angof, ond meddyliwch am y blynyddoedd maith pryd y cadwyd enw Janacek yn fyw bron yn gyfangwbl yn ei wlad ei hun yn unig, neu’n wir enw Dvorak fel cyfansoddwr opera – sydd ddim ond wedi dod i fri rhyngwladol yn yr 20 mlynedd diwethaf. Mae buddsoddiad Gŵyl Bregenz mewn dau ffigur angof, dybiwn i, yn enghraifft hyfryd o’r grym meddal y gall ac y dylai sefydliad diwylliannol ei ddefnyddio i gywiro anghyfiawnderau yn y maes diwylliannol-wleidyddol.


Rhoddwyd dwyster ychwanegol i’r syniad hwn gan y ffaith fod Llysgenhadaeth Gwlad Pwyl yn Fienna, lle cynhaliwyd y seremoni fechan hon, wedi’i lleoli yn y fila gwych lle ganwyd yr awdur Stefan Zweig.  Daethai teulu Zweig yn wreiddiol o dref fechan Hohenems yn Vorarlberg, ychydig i fyny’r ffordd o Bregenz, tarddiad cymuned Iddewig fechan a ymledodd dros y byd, fel yr ysgrifennodd. Felly fe ddylsai’r syniad o alltudiaeth fod yn blanedig yng ngenynnau Zweig, ond nid felly. Pan ddaeth ei dro ef i ffoi rhag y Natsïaid, aeth yn gyntaf i Loegr lle claddodd ei ben mewn llyfrau i astudio Erasmus. Pan ddaeth y rhyfel, dihangodd ymhellach i America, ac wedyn i Frasil lle bu’n ddigon naïf i ddod yn fath o lefarydd llenyddol dros y drefn led Ffasgaidd yn y wlad honno. Ac yntau’n methu gweld unrhyw ddiweddglo cadarnhaol i’r rhyfel, ac efallai’n ymwybodol o’i sefyllfa beryglus ym Mrasil, gorweddodd ar wely law yn llaw â’i wraig ifanc Lotte, a chyflawnodd y ddau hunanladdiad.


Gellid dehongli marwolaeth Zweig fel y weithred olaf mewn cyfres faith o fföedigaethau rhag realiti – a minnau bellach wedi gweld y tŷ lle cafodd ei eni mae’n haws gen i ddeall ei safbwynt yn ymwrthod mor ddigyfaddawd â chreulonderau amlwg gwleidyddiaeth y 1930au, a’i enciliad i astudiaethau o Marie Antoinette a darnau ymddiddan coeth i Richard Strauss.  Ond wrth wneud hyn roedd hefyd yn gwadu ei rôl sylweddol fel esiampl o annibyniaeth artistig i ddeallusion alltud yr Almaen oedd dan warchae a than gwmwl.  Trech na’i rôl fel gwrthsafwr blaenllaw oedd anobaith alltudiaeth, alltudiaeth a oedd yn arwyddocaol iddo nid yn unig ar sail ddaearyddol, ond alltudiaeth hefyd oddi wrth ei iaith ei hun – rhywbeth yr oedd wedi’i hogi i greu prydferthwch a chywirdeb mynegiannol mawr, ond a oedd bellach yn gysylltiedig yn ddi-alw’n-ôl â cholbwyr a llofruddion.


Cleddyf deufin yw alltudiaeth, fel y gŵyr y Pwyliaid yn well na neb. Mae hyn yn wirionedd arwyddocaol, mewn wythnos pryd y gallwn gydnabod gyda pheth balchder fod mwyafrif o’r awduron newydd a enillodd glod a bri ar restr Granta o nofelwyr ifainc Prydeinig mwyaf dawnus y ddegawd nid yn unig yn fenywod, ond hefyd yn dod o gefndiroedd gwasgaredig dros y byd i gyd.  Daw mewnfudo â llawer i’w ddathlu, ond gall mynd yn ddi-wladwriaeth i bob pwrpas olygu suddo i dwll du sy’n tywyllu o hyd.  Dyna alwad am achubwr – Cafalîr, yn wir – a gorau oll os daw ar geffyl gwyn!

Ychwanegu sylw