Blog DP: Cyfarwyddo Pygmalio

Posted on Maw, 2013-01-29 10:46 by David Pountney

Ar adeg pan fo gwasg ddiwylliannol Prydain yn ymddangos ei bod wedi ymgolli yn yr hen gwestiwn p’un a yw Calixto Beito yn peri sioc ai peidio, cymerais olwg ar y genhedlaeth wedi Beito o gyfarwyddwyr, gan ddod o hyd i gronfeydd enfawr o sgiliau  a dychymyg, i gyd wrthi’n gweithio i adlewyrchu opera mewn modd diddorol, ysgogol a chyfrifol, a phob un yn meddu ar grefft llwyfan benigamp. Yn wir, yr unig un y des ar ei draws yr oedd ei drahauster wrth ddehongli yn mynd ffordd bell tuag at ddinistrio’r gwaith o dan sylw oedd yr arweinydd Nicholaus Harnoncourt a’r Ffliwt Hud yn Salzburg!

Yn gyntaf roedd Hernheim. Ei Lulu ef yn Oslo a Dresden oedd y gyntaf i ddefnyddio fersiwn Kloke y bydd WNO yn ei defnyddio tan fis Chwefror y flwyddyn nesaf. Dyna lle roedd wrthi’n mynd i’r afael ag un arall o’r merched anystywallt hynny y mae opera yn eu cael yn ffynhonnell cyfaredd bob amser, Manon Lescaut. Naturiolydd yw Herheim yn y bôn yr ymddengys ei fod yn hoffi herio ei fedr technegol fel cynhyrchydd drwy godi fframweithiau deongliadol sy’n gynyddol fwy cymhleth. Roedd Manon yn Graz yn enghraifft bwysig o hyn: canolbwyntiwch – bydd prawf yn nes ymlaen!

Rydym yn cychwyn yn stiwdio Frédéric –Auguste Bertholdi, y cerflunydd a greodd Gerflun Rhyddid. Felly rydym ym Mharis c. 1886. Mae Bertholdi, a elwir hefyd yn Des Grieux (myfyriwr diwinyddiaeth yn y gwreiddiol) mewn cariad â’i gerflun, ac felly mae yma thema “Pygmalion” ar droed. Drwy’r rhwyllen rydym yn gweld Pucinni (ie, ef ei hun) wrthi’n troi tudalennau’n wyllt drwy lyfr y gallwn gymryd mai nofel Abbé Prévost sy’n rhoi stori Manon gyntaf ydyw. Mae’n amlwg ym mhangfeydd canfod yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei lwyddiant mawr cyntaf. Cyfyd y llen ar yr olygfa agoriadol brysur – golygfa genre benigamp o grwpiau cymdeithasol gwahanol yn rhyngweithio’n brysur â’i gilydd – y model gwreiddiol oedd Faust gan Gounod a gaiff ei gopïo’n aml –e.e. Queen of Spades. Yn lle myfyrwyr a’r bobl yn mynd heibio yn nhafarn y goets fawr ar y ffordd i Baris, fodd bynnag, mae gennym weithwyr ffowndri Bertholdi a grwpiau o ymwelwyr cyfoethog a noddwyr yn ymweld â’r stiwdio. Mae rhannau enfawr o’r cerflun enwog yno, gyda Bertholdi/Des Grieux yn cynnau “fflam ysbrydoliaeth” h.y. cariad. Mae’r holl olygfa yn troi o amgylch gan ddangos y llyfr mae Madam Rhyddid yn gafael ynddo, sydd, fel y cofiwch efallai, â’r dyddiad 4 Gorffennaf, 1776, dyddiad cyhoeddi datganiad Annibyniaeth gan yr hen geiliogod hynny o Americaniaid, wedi ei ysgrifennu arno. Mae hyn yn mynd â ni’n ôl bron i gan mlynedd wrth i ddalen ar wyneb y llyfr agor i ddangos inni gymeriadau gyda wigiau a phowdr o’r 18fed ganrif yn camu allan o’r “goets fawr” – Manon, ei brawd, Geronte, ac ati. Mae gweithwyr y ffowndri bellach yn gynulleidfa mewn drama o’r 18fed ganrif, y mae Bertholdi/Des Grieux yn cael ei dynnu fwyfwy i mewn iddi, gan enwi Manon fel awen ysbrydoliaeth yn ei fywyd yn debyg i Fadam Rhyddid neu’n gyfnewidiadwy â hi. Mae cerflun/merch o gig a gwaed wedi’u cymysgu â’i gilydd yn dweud “Pygmalion” wrth bawb sy’n ddilynwyr y clasuron yn eich plith. 

Mae hwn felly’n gysyniad lle mae un o’r prif gymeriadau, Bertholdi/Des Grieux yn gorfod byw mewn dau gyfnod amser ar yr un pryd, a lle mae’n rhaid i’r holl gymeriadau fynd i’r afael gyda dwy, neu’n hytrach dair ffynhonnell i’w gweithredoedd a’u hymddygiad. Maent i gyd o bryd i’w gilydd yn tyrchu yn y llyfr gan Prévost i gael gwybod beth sydd ar fin digwydd iddynt, neu beth y gallent fod wedi anghofio ei wneud, - ffynhonnell 1. 

Mae rhai ohonynt, Manon yn bennaf, hefyd yn rhyngweithio gyda Puccini sydd yno drwy’r amser, yn cydganu, yn cymryd rhan, yn cydymboeni â’r cymeriadau. Mae bron y cyfan o’r olygfa olaf o Manon yn marw mewn anialwch yn America yn cael ei chwarae rhwng Manon a Puccini, fel petai’r olaf wedi gallu newid ei feddwl a gadael iddi fyw! Felly Puccini yw ffynhonnell 2. Yn olaf maent i gyd o bryd i’w gilydd yn gorfod ymdrin â’r gerddoriaeth a’r testun fel y maent mewn gwirionedd – ffynhonnell 3. 

Yr unig reswm pam nad yw hyn oll yn hollol absẃrd ac yn mynd dan eich croen yw ei fod wedi ei gyfarwyddo’n wirioneddol dda gyda sylw trwyadl yn cael ei roi i’r manylion gan sioemon theatrig naturiol. (Mae’n debyg y byddai’n casáu gwybod fy mod i wedi dweud hynny amdano!) Mae’r cenedlaethau blaenorol o gyfarwyddwyr “cysyniadau” wedi tueddu i fod naill ai ag alergedd i gyfarwyddo’r côr, neu’n analluog i wneud hynny, gan eu gyrru i gorlannau chwarae ar ochr y llwyfan neu ar bodiymau hwylus gan obeithio y byddant yn toddi i’r cefndir. Mae Herheim yn darlunio ei gysyniad drwy gyfarwyddo’r côr,  yr ecstras, unrhyw un y gall gael gafael arnynt mewn gwirionedd yn gorfforol fywiog, gan wneud hynny drwy berfformiad gorchestol neilltuol. Ond mae’r cymhlethdod yn trechu unrhyw bosibilrwydd o deimlo unrhyw beth dros y cymeriadau hyn, wedi’u symud deirgwaith bellach oddi wrth unrhyw realiti a allasai fod ganddynt. Efallai i’r rhan fwyaf o’r gynulleidfa y gallai hynny fod wedi bod yn finws go fawr. 

Ym Mrwsel des ar draws un o’r mwyaf adnabyddus o genhedlaeth newydd eto o gyfarwyddwyr o Wlad Pwyl, Kzystof Warlikowski, a oedd yn gwneud Lulu. Fel arfer ni fyddwn yn mynd i weld rhywbeth rwyf ar fin ei gyfarwyddo fy hun, ond aeth chwilfrydedd yn drech na mi. Arddulliwr yw Warlikowski yn bennaf oll, ac ni fyddwch yn gweld cynhyrchiad mwy steilus am yn hir iawn. Mae’n cyflwyno Lulu mewn lleoliad hollol gyfoes wedi ei ddiweddaru’n llawn. Mae’n darlunio hynny gyda defnydd helaeth a pharhaus o fideo ar y naill law, a gyda blwch Persbecs y cyflwynir nifer o weithrediadau is-destunol ynddo, ac felly yma hefyd mae tair haen o naratif, er eu bod i gyd yn fwy abstract na rhai Herheim. Mae’r fideo i bob diben yno yn lle’r darlun o Lulu, sydd ynddo ei hun yn ddyfais sydd unwaith eto yn adleisio Pygmalion. Mae Warlikowski yn gwneud defnydd mawr ar ddawnsio, a’r ddelwedd o ddawnswyr, sydd yn amlwg â pherthnasedd penodol i Lulu, nid lleiaf yn y defnydd swynol a wneir ganddo o éléves yr ysgol fale, sy’n cyflwyno awgrym anesmwyth ond priodol o’r “paratoi” ar ferched ifanc ar gyfer cael eu hecsploetio’n rhywiol. Cadarnheir hyn yn wych iawn gan y ffaith fod Barbara Hannigan yn rhoi perfformiad corfforol eithriadol sy’n cynnwys bod ar flaenau ei thraed am gyfnodau maith, a’i bod hi’n chwarae’r rhan fwyaf o’r opera yn ei dillad isaf prin. 

Mae hyn oll yn gweithredu ar lefel uchel iawn – yn ddi-gwestiwn – ond byddwn am gynnig dau sylw – heb fod yn feirniadaeth mewn gwirionedd. O’r tair haen, yr un a gyfarwyddir yn fwyaf confensiynol yw gweithredu llinell flaen y cantorion. Yn fwyaf neilltuol, tuedda’r dynion i fod braidd yn welw a digymeriad, ac mae’n ymddangos bod gan Warlikowski ei hun fwy o ddiddordeb yn yr hyn y gall ei gyflawni oddi amgylch neu’r tu allan i’r stori fel y cyfryw. Ceir enghraifft ardderchog ar ddiwedd Act 1 lle mae dawnsiwr unig, rhyfeddol o welw yn dal ati yn ei flaen ar ôl i’r gerddoriaeth ddod i ben gyda strip-bryfocio hir, hir iawn ar flaenau ei draed. Mae’n ddarn o gelfyddyd perfformio rhyfedd, hardd ac atmosfferig iawn ar ei ben ei hun. Efallai ei bod yn drueni na chafodd ddim byd mor ddiddorol â hynny i’w wneud gyda’i brif gymeriadau. 

Yn neilltuol, er bod hyfedredd a disgleirdeb Hannigan yn ddi-gwestiwn, tybed nad oes yna ffordd ddyfnach o ymdrin â rhywioldeb ar lwyfan na dillad isaf a symudiadau bale amlwg o ormodol? Rwy’n cymryd bod hon yn her rwyf yn ei gosod i mi fy hun! 

Y drydedd opera Pygmalion yn y dilyniant hwn yw “Written on Skin” George Benjamin – ac mae hi a’r cynhyrchu arni gan Katie Mitchell mor berffaith fel mai ychydig iawn sydd ar ôl i ddweud amdani. Rhuthrwch i’w gweld yn Covent Garden mewn ychydig o amser. Mae’r plot yn syml a’r canlyniad yn anorfod: mae tirfeddiannwr cyfoethog a deallus o’r Oesoedd Canol yn gofyn i “fachgen” ddathlu ei gampau mewn llyfr wedi ei addurno’n gain. Llwydda’r bachgen, drwy ei ddarluniau, i ddatgelu gwraig y gŵr iddi hi ei hun, ac maent yn cael carwriaeth. O ganfod hynny, mae’r tirfeddiannwr yn llofruddio’r bachgen ac yn bwydo ei galon i’w wraig. Ond mae’r wraig wedi ei rhyddhau’n ddi-droi’n-ôl gan y broses hon, ac mae’n dewis ei lladd ei hun. 

Unwaith eto, mae lefelau gwahanol i’r naratif hwn. Ceir dyfais o bellhau’r naratif lle mae pob cymeriad yn ei roi ei hun mewn cromfachau fel petai drwy ddweud: “A dywedodd y bachgen…”, “A dywedodd y wraig…”. Yna ceir pellhau strwythurol a dramatig lle mae “corws” o dri angel yn cyfarwyddo ac yn pennu’r stori. Mae elfen anorfod y stori felly yn cael ei hatgyfnerthu ddwywaith drosodd, ond nid yw hynny mewn unrhyw ffordd yn lleihau’r disgwylgarwch sydd gennym wrth wylio’r hyn y gwyddom fydd yn digwydd yn ei ddatgelu ei hun. Dyma adrodd stori’n ddramatig yn wirioneddol ddeallus. Ac mae’n cael ei gyfleu drwy gerddoriaeth o’r fath fanwl gywirdeb, y fath lymdra emosiynol a’r fath argyhoeddiad dramatig, heb sôn am liw cywrain a chyfoeth melodaidd. Ac – o mor nefolaidd a gogoneddus – mae pob gair yn glir fel grisial ac yn glywadwy! 

Mae sgil gwaith Benjamin bron yn ddidrugaredd yn y ffordd mae’n dangos gwaith llaw gwael y rhan fwyaf o’i gyfoeswyr  sy’n aml yn ymddangos eu bod yn credu mai bod yn uchel, dwys a gor-gymhleth yw’r unig ffordd i fod yn “fodern”. Efallai’n wir y byddent hwythau’n ateb NAD YW gwaith Benjamin yn fodern, a byddent yn llygad eu lle! Dyma un o’r agweddau mwyaf cyfareddol ar y gwaith: mae’n troi’r cysyniad o “fodern” – y mae cymaint o waed ac inc wedi eu tywallt drosto – yn amherthnasol ac yn ddiswyddogaeth. Gallai stori “Written on Skin” gyda’r cyfuniad anghynnes o greulondeb Canoloesol a gwyrdroad erotig, yn hawdd fod wedi bod yn destun opera o’r 1920au/30au, ac yn wir mae nifer yn dod i’r meddwl – mae gan “Florentine Tragedy” Zemlinsky gytser tebyg iawn, fel sydd gan “Die Tote Stadt”, “L’Amore di Tre Re”, a gallai sgôr gerddorol liwyddol Benjamin fod wedi datblygu o Schreker, ond bod gan Benjamin lawer mwy o ddisgresiwn a chwaeth ac nad yw byth yn ymdrybaeddu yn ei faddon ei hun! Mae’n ail-gadarnhau man cychwyn pob ymdrech operatig yn y ffordd fwyaf pendant; dweud stori yn gerddorol a dramatig yw’r cyfan sydd ei angen. 

O gofio’r tair lefel o ddyfais naratif yn y gwaith ei hun, byddai bron yn anorfod y byddai Herheim wedi gor-gymhlethu’r canlyniad, ac y byddai Warlikowski wedi ei fygu mewn steilusrwydd cyfoes. Mae Katie Mitchell yn ei hoelio hi ar ei phen. Mae’n rhoi cefndir cyfoes, biwrocrataidd i’r Angylion, fel ffigyrau allan o “Bureau of Dreams” Julietta, ond mae’n ymdrin â’r anachroniaeth hollol briodol hon gyda’r fath dynerwch a disgresiwn fel mai cael ein hysbrydoli’n unig a wnawn, heb fyth gael tynnu’n sylw. Y canlyniad yw naratif clir fel crisial, gyda phob manylyn yn mynnu’ch sylw.

Pan ofynnodd Ivan Hewitt imi wneud sylw ar ganmlwyddiant Verdi/Wagner, ysgrifennais:

Verdi oedd yn cyfansoddi drama melodi, melodrama, cyferbyniad. Wagner, drama syniadau a thrawsffurfiad. Roedd y ddau yn gewri. Pwy arall sy’n gallu ymuno â’u clwb? Handel, Mozart a Janacek.

Ni wnaeth Strauss a Puccini erioed godi uwchlaw eu lefel uchaf o allu, gyda’r ddau yn gadael y genre lle cawsant ef ac yn dechrau mynd ar i waered. Treuliodd Verdi a Wagner oes o wthio ffiniau’r ffurf a’u swyddogaeth hwythau oddi mewn iddi, ac roeddent yn dal i’w hailddiffinio’u hunain tan y diwedd un.   

Pwy allai ymuno â hwy yn yr 21fed ganrif?  Mae gan George Benjamin y ddawn, y chwaeth a’r medr. Ond fel gyda Bizet, Berg, Debussy a Shostakovitch, nid yw un campwaith yn ddigon i ymuno â’r clwb arbennig hwn. Mae ganddo 5 opera arall i’w hysgrifennu.

Brysia, George!

dp

 

Ychwanegu sylw