Blog DP: Dilyn Moses i fyny’r mynydd!

Posted on Llun, 2013-04-08 11:49 by David Pountney

Ar y diwrnod y mae ein rhaglen gyffrous ar gyfer y flwyddyn nesaf yn mynd ar werth i’r cyhoedd, rwy i’n eistedd yn ninas Linz yn Awstria yn mwynhau rhywfaint o haul prin, ar fin agor opera newydd gan Phillip Glass, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer testun gan Peter Handke ar gyfer agoriad tŷ opera newydd sbon - nid rhywbeth sy’n digwydd bob dydd! Mae tŷ opera newydd yn gwneud i chi feddwl am bwrpas tŷ opera, ac i edrych ar ein rhaglen a gweld a ydym yn dod yn agos at ateb y cwestiwn hwnnw. Gobeithio eich bod yn meddwl ein bod ni! 

Gall opera fod yn ffurf fawr, feiddgar ar gelfyddyd a dylai felly fod yn fforwm ar  gyfer syniadau mawr. Mae’n ffurf ddrud ar gelfyddyd, a ddylai felly gynnig mwy na difyrrwch yn unig. Rydym yn gobeithio rhoi profiadau angerddol cyffrous i’n cynulleidfaoedd, ond hefyd eu gadael â’r  ysgogiad i drafod ymhellach. Gadewch inni ddechrau gyda Donizetti: mae ei dri o weithiau Tuduraidd yn agor tymor yr hydref.  Ceir yma’r gorau o’r traddodiad Eidalaidd o opera sy’n plesio ar ei union  - ffigurau eiconig o’n hanes ein hunain yn cael eu hysbeilio’n llawen a’u gweddnewid yn felodramâu lleisiol sy’n cael eu gyrru ymlaen gan arddangosiadau meistrolgar afieithus o’r grefft o ganu. Mae’n ddiddorol iawn gweld wrth gwrs y ffordd y bydd un diwylliant yn cydio yn y “gwir” sy’n perthyn i un arall a’i drawsnewid, ond ar wahân i hynny rydym wedi gweld yn ddiweddar iawn pa mor amserol o hyd yw rôl merched brenhinol.  Mynegodd Hilary Mantel rai sylwadau a eiriwyd yn ofalus iawn ynghylch y ffordd y mae’r cyfryngau yn diraddio ac yn bychanu’r ferch ifanc sy’n cael ei gwthio i amlygrwydd bywyd brenhinol, ond roedd y pwnc hwn mor sensitif fel ei fod wedi maglu’r Prif Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid i roi ymatebion difeddwl oedd yn dangos yn eglur iawn eu bod yn ymateb i’r “niwl” ac nid i’r hyn a ysgrifennodd Mantel mewn gwirionedd. Byddai prif gantoresau ein hoperâu Tuduraidd i gyd yn gwybod am gydfodolaeth agos grym a breguster, ac nid oedd neb yn rheolwr mwy craff ar arwyddocâd ymddangosiad na’r Frenhines Elizabeth. Bydd profiad trwyadl o bob un o’r tri gwaith nodedig hyn yn ymchwiliad ag iddo sawl gwedd ac atsain. 

Mynegir ochr arall i rym a breguster merched yn yr ail driawd: Merched colledig - lle ceir cerddoriaeth hyfryd o dyner a llawn mynegiant yn cydfodoli ag agweddau eithaf anghysurus o voyeuriaeth a rhagrith. A ydym yn mwynhau’r profiad o weld y menywod hyn yn syrthio o bellter diogel, gan wybod y cânt eu cosbi am eu camweddau erbyn diwedd y perfformiad? A phr’un bynnag, pwy yw’r rhai euog? Y menywod sy’n syrthio, neu’r dynion sy’n eu gwthio? Mae grym cerddoriaeth yn dangos tosturi llwyr Verdi a Puccini tuag at y cymeriadau trychinebus hyn, gyda’u prydferthwch yn ffynhonnell eu grym ac yn hyrwyddo eu llygredigaeth, ond mae’r profiad cyffredinol o weld y tri gwaith - yn enwedig gydag ychwanegiad pryfoclyd fersiwn jasaidd, hudolus iawn Henze - o reidrwydd yn ein gorfodi i wynebu’r pynciau dyfnach y tu ôl i’r fath storïau. Mae hynny’n gwneud y daith yn fwy arbennig fyth.

Yn ystod yr haf deuir â chyfuniad ynghyd y mae’n rhaid ei weld: Moses und Aron a Nabucco - dau gawr ym myd yr opera o ddau ben y sbectrwm. Llwyddiant mawr cyntaf Verdi oedd Nabucco, ac mae’n dod â sêl grefyddol yr Eidal i’r stori Feiblaidd sy’n cael ei mynegi drwy rythmau gyriadol a melodïau ymddyrchafol ei nwyd ifanc dibetrus. Mae Moses und Aron yn ymdrin â’r teimlad ingol o annigonolrwydd a brofir gan Moses pan roddir iddo’r dasg o fod yn arweinydd crefyddol ei bobl, yn union fel yr ymgodymodd Schoenberg ei hun â datblygiad iaith gerddorol newydd i fynegi darganfod unwaith yn rhagor ei uniaethu â’i grefydd a’i hil - uniaethiad oedd yn digwydd dan bwysau allanol llym a chynyddol Gwrth-Semitiaeth. Ffydd fydd ein pennawd wrth inni edrych ar y ddau waith yma - y ddau yn ddatganiadau ynghylch grym ac ystyr crefydd - a hefyd yn bwnc sy’n anghysurus o berthnasol ac amserol heddiw. 

Ochr yn ochr â Ffydd rydym yn parhau â’n cyfres Blaenoriaeth i Brydain - sy’n dod â gemau operatig newydd nas gwelwyd o’r blaen atoch - yn yr achos hwn ymchwiliad dwbl o’r stori arswyd wreiddiol: The Fall of the House of Usher Edgar Allan Poe. Mae Gordon Getty yn cyfrannu golwg gynnil sydd â naws yr 21ain ganrif, i fynd ochr yn ochr â fersiwn Argraffiadol, niwlog Debussy gan un o liw-wyr cerddorol pennaf yr 20fed ganrif.

Mae hon, fel y dywedais, yn siwrnai fawr i ni ac i chithau, felly 'dyw hi ddim ond yn deg ei bod yn dod i ben ar fynydd yn y diffeithwch! A dwy ddim yn ymddiheuro am hynny. Os yw opera yn dal i fod yn ddigon pwysig i adeiladu tai opera newydd, mae’n ddigon pwysig i gymryd camau beiddgar, ac i ennyn trafodaeth egnïol yn ogystal â phrofiad aruchel. Dechreuwch ddringo nawr!