Blog DP: Lohengrin

Posted on Gwen, 2013-05-10 16:55 by David Pountney

Rydw i’n teimlo’n gynhyrfus iawn wrth feddwl am ein Lohengrin newydd, yn gyntaf oherwydd bod Lothar Koenigs, ein Cyfarwyddwr Cerdd gwych, yn angerddol dros gerddoriaeth y symffoni hon i chwyldro Almaenig, ac yn ail oherwydd, os aiff popeth yn iawn fel y mae pawb ohonom yn gweddïo, mae ganddo gast ardderchog gydag elfen Gymreig gref, fel y dylai fod i gwmni fel y Cwmni Opera Cenedlaethol. Mae hynny’n dipyn o fantais o gofio bod agosrwydd y cynhyrchiad at benblwydd Wagner, Mai 22 (bydd Lohengrin yn agor ar Fai 23) yn golygu y bydd yn cystadlu â thomen o ddathliadau Wagneraidd dros y byd i gyd.

Un perfformiad na fydd Lohengrin bellach mewn cystadleuaeth ag ef yw’r cynhyrchiad o Tannhäuser yn Düsseldorf sydd newydd ei ganslo ar ôl protestiadau fod y dehongliad Natsiaidd/Holocostaidd a’r modd y cafodd ei lwyfannu wedi peri i rai aelodau o’r gynulleidfa fynd yn gorfforol sâl. Fe gafwyd datganiadau gan reolwyr y theatr a oedd yn destun cryn syndod. Bron nad oedd y rheolwyr yn ymddiheuro am y ffaith fod eu cynhyrchiad wedi cael effaith berfeddol ar y gynulleidfa, sef holl ddiben digwyddiad theatrig, gallech feddwl, hyd at ryw bwynt. Hwyrach fod llinell wedi’i chroesi.

Bydd y stori’n siŵr o fwydo ofnau rhai aelodau o sawl cynulleidfa ynghylch beth allai fod yn eu disgwyl ar y llwyfan yn y llu o gynyrchiadau sy’n nodi deucanmlwyddiant Wagner. Eithafwr oedd Wagner ei hun ymhob ystyr – yn gerddorol, dramatig a phersonol – ac mae ei gelfyddyd yn gwahodd ymatebion eithafol o gariad penboeth i gasineb. Roedd hefyd yn sicr yn wrth-Semitig, ac yn genedlaetholwr chwyldroadol, a gyda synnwyr hanesyddol heddiw mae’r cyfuniad hwn yn amlwg yn sawru’n anghynnes o Ffasgaeth, yn enwedig gan i’r Ffasgwyr wedyn ecsbloetio’r cysylltiad hwn. Ond yn y 19eg ganrif, nid dyrchafu cenedl uwchlaw cenhedloedd, yn ystyr “Lebensraum” Hitler, oedd nod cenedlaetholdeb, ond rhyddid cenedlaethol. Mae’r math chwith-ryddfrydol hwn o genedlaetholdeb yn ymddangos yn rhyfedd i ni heddiw, ond yn y bôn gwnaeth Wagner ei benderfyniad i dyrchu’n ôl yn chwedloniaeth yr Almaen am ddeunydd testun gyda’r un bwriad â Smetana, oedd yn siaradwr Almaeneg ei hun, wrth ddewis gosod testunau Siec, neu yn yr un modd ag y llywiwyd “Dyrnaid Nerthol” Rwsia gan eu “dramatwrg” Stassov i fynd yn ôl i hanes a chwedloniaeth Rwsia. Fel y bydd pob Cymro’n deall, mae arddel hunaniaeth drwy iaith a chwedloniaeth yn un o flociau adeiladu hanfodol ymwybyddiaeth genedlaethol, a nod chwyldroadau’r 1840au, yr oedd Wagner yn chwaraewr brwd ynddynt, oedd creu undod cenedlaethol dan faner democratiaeth a rhyddid mynegiant, a thynnu grym o afael yr haid orthrymus o dywysogion, esgobion a brenhinoedd a reolai’r mân dywysogaethau niferus a ffurfiai’r Almaen yn y 19eg ganrif.

A dweud y gwir, cawsom ddadl hynod ddifyr gydag Antony McDonald, cyfarwyddwr Lohengrin, am leoliad cyfnod y cynhyrchiad. Mae stori Lohengrin yn amlwg yn digwydd yng nghanol rhyfel, a greddf gyntaf Antony oedd ei gosod, o ran gwisgoedd, yn y cyfnod yn syth wedi’r Ail Ryfel Byd. Ond dadleuodd Lothar yn llawn angerdd y byddai hyn, er nad yn cyfeirio’n uniongyrchol at Ffasgaeth, yn rhy agos at wneud hynny, ac y byddai hynny’n tynnu’r sylw oddi wrth ystyr hanfodol Lohengrin, sydd yn y pen draw’n cario’r neges ddemocrataidd ddyngarol fod yn rhaid cydnabod dyn am yr hyn ydyw, nid am ei linach. Mae Lohengrin yn gwrthod cwestiynau am ei wreiddiau – gan hawlio trefn chwyldroadol newydd lle nad oes dim lle i etifeddeg a disgynyddiaeth. Roedd Antony’n ddigon graslon i dderbyn dadleuon Lothar, ac felly daw gwisgoedd y cynhyrchiad o gyfnod chwyldroadau’r 1840au. Mae’n bwysig am resymau gonestrwydd artistig fod modd cysylltu Lohengrin â’i le yn hanes yr Almaen heb gyfeirio’n awtomatig at yr hyn a ddigwyddodd gan mlynedd yn ddiweddarach.

Felly, er y bydd ein cynulleidfaoedd yn falch o wybod nad oes DIM Swastikas yn ein Lohengrin ni, beth am achos Düsseldorf, lle mae’n rhaid eu bod wedi cytuno i gynllunio cynhyrchiad o Tannhäuser a oedd yn cyfeirio at yr holocost mewn ffyrdd eglur iawn, ac wedyn wedi mynegi syndod a hyd yn oed ymddiheuriad fod hynny wedi peri tramgwydd? Alla i ddim gwneud sylw ar unrhyw beth penodol gan nad ydw i wedi gweld y cynhyrchiad, ond hyd yn oed os tybiwn i’r peth gael ei gyflawni’n wych, y mae rhai cwestiynau o egwyddor y gellir eu nodi. Un yw fod y cysylltiad awtomatig, difeddwl rhwng Wagner a Ffasgaeth yn ystrydeb sydd eisoes wedi’i orweithio. At hynny, mae’n amlwg mai rhywbeth hollol wahanol yw deunydd testun Tannhäuser, fel mai effaith cyflwyno cwestiwn yr Holocost, sydd o reidrwydd ac yn gyfiawn yn siŵr o hawlio pob sylw, i berfformiad o Tannhäuser, yw dyrchafu sgil-effaith hanesyddol i gerddoriaeth Wagner i fod yn thema ganolog hollbwysig.  Mae hyn yn rhwym o fod, mewn rhai ystyron, yn llurguniad, oni bai eich bod yn credu, fel y mae rhai Israeliaid, yn amlwg, nad oes unrhyw fodd perfformio Wagner heb godi bwgan Ffasgaeth. Os ydych chi’n credu hynny, a dydw i ddim, yna mae penderfyniad yr Israeliaid i wahardd Wagner yn gyfan gwbl yn fwy rhesymegol na chyflwyno mesurau adferol llurguniol i berfformiadau o’i weithiau. Yn olaf, rwy’n credu bod rhaid annog unrhyw un sydd nawr yn awyddus i “ddyfynnu” yr holocost mewn ffilmiau, llyfrau, neu’n wir gynyrchiadau opera i fod yn eithriadol o ofalus. Wrth wneud hynny onid ydyn nhw’n syml yn “prynu i mewn” ryw arwyddocâd emosiynol a hanesyddol penodol, dim ond drwy ddyfynnu’r delweddau a’r camau adnabyddus – arwyddocâd na fyddai efallai mor barod a rhwydd ei sicrhau fel arall drwy nofel, ffilm neu’n wir gynhyrchiad ystyrlon o Tannhäuser?

Hwyrach mai gan theatr fach yn Karlsruhe y mae’r ateb gonest go iawn i’r cwestiwn hwn. Ar Fai 18fed, fyddan nhw ddim yn cyflwyno perfformiad cyntaf gwaith gan Wagner, ond perfformiad Almaenig cyntaf opera Weinberg “The Passenger”. Dyma waith sydd yn ymdrin â’r Holocost yn uniongyrchol iawn, a rhannau ohoni’n digwydd yn Auschwitz ei hun, ond roedd awduron y gwaith hwn yn perthyn i’r oes honno – roedd Weinberg wedi ffoi oddi wrth y Natsïaid i’r Undeb Sofietaidd a cholli ei deulu cyfan, a bu awdur y llyfr gwreiddiol, Zofia Posmych, sy’n dal yn fyw heddiw, hithau’n gaeth am 3 blynedd yn Auschwitz. Er hynny i gyd, pan gafodd y gwaith ei berfformiad Prydeinig cyntaf yn yr ENO, awgrymodd rhai pobl, hyd yn oed y Jewish Chronicle, nad oedd gan yr awduron ddim hawl gwneud opera ar y pwnc hwn. Dyna farn yr ydw i’n ei gwrthod yn danbaid, gan mai ymgais ydi hi, i bob pwrpas, i gau cegau’r tystion hynny a ddioddefodd yn uniongyrchol, ac y mae ganddyn nhw bob hawl i fynegi eu dealltwriaeth nhw, a ddaeth iddynt mewn modd mor boenus, o’r cwestiynau hyn mewn gwaith o gelfyddyd. Os na all opera ymwneud â materion mwyaf difrifol hanes, cymdeithas a gwleidyddiaeth beth ar y ddaear yw diben unrhyw fath o ddirnadaeth artistig? Ond hyd yn oed os ydyw hawl pobl fel Posmych a Weinberg i drafod y mater hwn yn codi cwestiynau, pa faint mwy amheus yw hi nawr, 70 mlynedd wedi’r digwyddiad, cyfeirio at y materion hynny nid yng nghynnwys sylfaenol darn o waith celfyddydol, ond yn aparatws cynhyrchiad opera. Rwy’n codi fy nghap i onestrwydd y theatr yn Karlsruhe am gyflwyno gwaith celf go iawn sy’n wynebu’r cwestiynau hyn, nid cynhyrchiad y gallai ymddangos ei fod yn eu hecsbloetio’n gosmetig, ond gyda phob parch iddyn nhw am eu menter, y mae’n biti na chafodd y gwaith pwysig hwn ei lwyfannu am ei berfformiad Almaenig cyntaf mewn tŷ mwy blaenllaw. Yn nhermau cydnabod ei chyfrifoldebau celfyddydol a hanesyddol, mae’n ymddangos mai Berlin yw’r dref fach farwaidd a Karlsruhe yw’r brifddinas!