Blog: Lulu wythnos 5

Posted on Iau, 2013-02-07 11:02 by David Pountney

Mae cyflymdra’r wythnos olaf yn WNO tua dwywaith mor gyflym, neu ddwywaith mor ddwys, â’r rhan fwyaf o dai opera eraill. Gan mai Lulu yw agoriad y tymor hwn, does dim perfformiadau yn mynd yn eu blaen, felly yn lle ymarfer ar y llwyfan bob bore, yna’n ildio’r lle ar gyfer perfformiad y nos, rydym yn ymarfer ddwywaith y dydd ac yn creu’r goleuo yn y drydedd sesiwn, ac o ganlyniad o’r ymarfer cyntaf gyda’r gerddorfa ddydd Sul, sydd hefyd yn ymarfer cyntaf gyda golau, wythnos yn unig sydd tan y perfformiad cyntaf – 4 diwrnod gwaith i bob pwrpas. Yn y cyfnod hwn ychwanegir haenau enfawr – y gerddorfa yn gosod heriau newydd sylweddol i’r cast – byd o sain cwbl wahanol, er gwaethaf ymdrechion glew y rhyfeddol Stevie sydd wedi treulio 5 wythnos yn cyflwyno 6 awr o Berg y dydd ar y piano, ac yn mynd gryn ffordd i wneud i’r offeryn hwnnw, sy’n bŵl ar brydiau, ddal rhywfaint o naws a manylrwydd y sgôr gywrain hon.   

Ar amrantiad mae Lothar wedi ei symud o gyswllt aeliau agos gyda’r cantorion, i ochr arall bwlch llydan lle mae rhyw 80 o gerddorion bellach yn mynnu ei sylw. Ac mae cyfraniad 80 o gerddorion lle bu un yn golygu fod popeth yn symud ar gyflymder sydd fymryn yn wahanol, a bod manylion a oedd unwaith yn drawiadol o glir ar y piano yn awr yn gymysg â lliwiau eraill, ac mae acenion, ysgogiadau a naws gwbl wahanol yn awr yn cymryd drosodd fel yr elfennau pwysicaf. Mae’r rhaid fod effaith y trawsnewid sydyn hwn rhywbeth yn debyg i ganlyniad llawdriniaeth am gataract, lle mae eglurder a lliw yn cael eu hadfer i ddelwedd a oedd yn aneglur a thywyll.

Ac am liw! Os oes gan opera arall Berg, Wozzeck, rhyw lymder caled, mae Lulu wedi’i goleuo mewn goleuadau ac wedi’i chyffwrdd â’r hud gwawn arallfydol a wasgerir gan ei chymeriad canolog elffinaidd, etheraidd. Mae’r we ysgafn hon yn cael ei chydbwyso gan bresenoldeb telynegrwydd emosiynol, hiraethus Mahleraidd gan adran ddyfnach, soddgrwth ac utgorn, y gerddorfa, sy’n nodweddu pegwn cyferbyniol Lulu, y “dyn pwerus” Dr Schön. Mae’n eglur fod Berg yn ei weld yn ffigwr trasig, ac mae hyn ynddo’i hun yn dystiolaeth o gynildeb seicolegol ac erotig mawr ei waith. Wedi’r cyfan, yr agwedd dabloid gyffredin hunangyfiawn ar Dr Schön fyddai: “Barwn y wasg gwyrdroëdig a morwyn flodau dan oed” – sydd go brin yn awgrymu dimensiwn trasig, ac yn wir yr unig agwedd drasig ar yrfa barhaus Mr Berlusconi yw’r dirywiad yn synwyrusrwydd diwylliannol yr Eidal sy’n ei gwneud yn bosibl. Serch hynny, mae’r tebygrwydd arwynebol rhwng Dr Schön a Mr Berlusconi yn ddiymwad, sy’n ei gwneud yn fwy diddorol fyth fod Berg, drwy bwysau emosiynol cerddoriaeth Schön, yn llwyddo i’w gwneud yn glir, er mor fregus ac arallfydol y gall Lulu ymddangos, bod hon yn frwydr rhwng dau gyfartal lle mae’r grym yn gorffwys yn y pen draw gyda’r ferch fach.

Mae’n adlewyrchiad diddorol ar seicoleg Berg ei hun nad yw’r cymeriad Alwa, mab Schön, sydd mewn ryw ffordd yn hunan bortread o Berg ei hun – wedi’i drawsnewid o “awdur” Wedekind i “gyfansoddwr” y mae ei gysylltiad eglur â Berg yn cael ei amlygu drwy wahanol hunan-ddyfyniadau - yn ennill yr un pwysau emosiynol. Fel yn Buddenbrooks, mae dyn yn cael y teimlad fod artist iselwael wedi cymryd lle’r ffigwr masnachol tadol mawr, ac yn sicr nid damwain yw hi mai’r ddwy olygfa, diwedd Act 2 a dechrau Act 3, lle nad yw Schön yn bresennol, yw’r rhai lle mae Berg yn ei chael hi’n anodd cynnal tensiwn dramatig. Caiff hyn, serch hynny, ei adfer ar ei ganfed yn yr olygfa olaf lle mae dicter cynddaredd gwrywaidd, sy’n hel meddyliau maleisus, yn cael ei bersonoli gyda Schön yn dychwelyd o farwolaeth ar ffurf Jac y Rhwygwr. Dyma’r dimensiwn trasig – fod Schön yn diweddu ei fywyd gyda throsedd aflan ac ofer a all ladd dros dro y Lulu y mae ef wedi’i hadnabod, ond nad yw yn y pen draw ddim ond yn dangos ei anallu yn wyneb yr holl Lulus sydd i ddod.

Wel, erbyn yr adeg yma yr wythnos nesaf, bydd y cyfan wedi digwydd, ac fe fydda i’n mwynhau fy eirlysiau yn Ffrainc – hefyd yn eneidiau dewr yn wyneb cynddaredd y gaeaf!