DP's blog: Lulu wythnos 1

Posted on Maw, 2013-01-29 10:39 by David Pountney

Wythnos gyntaf wych ar Lulu gyda chast rhagorol – yn y math hwn o opera mae cael y cast iawn yn 75% o’r llwyddiant! Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld sut y mae gweithio ar y math hwn o sgôr gerddorol yn tanlinellu ffocws cwbl groes y rhai sy’n cymryd rhan. Ac mae hwn yn sgôr sy’n wirioneddol gymhleth! Gallech ddweud fod gostyngiad cyson yn y rhyddid a ganiateir i artistiaid yn sgorau operâu, o lawer iawn yn Handel, i dipyn go lew yn Mozart, i rywfaint o hyd yn Eidalwyr yr 19eg ganrif, i lawer iawn llai yn Wagner (dyma lle mae’r dirywiad yn dechrau!) tan i ni gyrraedd rhyw fath o bellafbwynt o eithafiaeth o reoli yn yr 2il ysgol Fiennaidd. Mae sylw enwog Richard Strauss y gallai ddisgrifio unrhyw beth mewn cerddoriaeth, a mynd yn ei flaen i ddangos ei hun gyda defaid yn brefu, shifflo cardiau, ffynhonnau’n llifo’n grych ac ati. Ond nid yw Berg yn gwneud hyn cymaint oherwydd y rheidrwydd i’w ddangos ei hun – maes Strauss yn bendant yw hynny – ond yn hytrach gyda’r rheidrwydd i reoli pob eiliad o’r perfformiad, hyd at symudiadau llwyfan nad oes a wnelont â’r gerddoriaeth. Felly ceir cyfarwyddo manwl ar dapio’r traed, anadliadau asthmataidd trwm – i mewn ac allan – nid y ffordd arall! – yfed gwydraid o schnapps, a phob math o ystum y gallech feddwl amdani heb sôn am blethora o effeithiau cerddorol disglair – obsesiwn â chloch y drysau, gwichian harmonica, a llawer mwy.

Efallai eich bod yn dechrau meddwl, gyda chymaint o ymdrech yn cael ei rhoi yn y sgôr i reoli’r manylion nad oes a wnelont ddim oll â’r gerddoriaeth, pa mor fanwl yn union y rheolir y gerddoriaeth ei hun a’r hyn y mae’n rhaid i’r cantorion ei ganu. Gan hynny, y ffocws hollbwysig a hanfodol iddynt hwy a’r galw mwyaf ar eu galluoedd ymenyddol yw “ei gael yn iawn”! Rwy i, ar y llaw arall, yn byw mewn byd cwbl wahanol! Dywedodd Ashley Holland, ein Dr Schön, braidd yn druenus y diwrnod o’r blaen “Mae mor wych pan fyddwch chi o’r diwedd yn ei gael yn iawn!” a’m hysgogodd i ateb na allai’r cyfarwyddwr fyth bythoedd ei gael yn iawn am nad oes y fath beth ag iawn ym maes cyflwyno’r ddrama neu gymeriadu, neu pa beth bynnag y bydd y cyfarwyddwr yn ei ddyfeisio i wireddu’r olygfa a’i throsglwyddo o’r dudalen i’r llwyfan. Mae yna bwynt mae’n debyg lle gallwch chi ddweud fod cyfarwyddwr yn bendant wedi methu, yn enwedig os yw hynny’n golygu gwneud rhywbeth sy’n ei gwneud hi’n amhosibl i wireddu’r gerddoriaeth – rydym i gyd wedi gweld enghreifftiau o hynny – ond mae bod yn wrthrychol “iawn” yn gategori na ellir ei gyflawni yn y maes hwn.

Felly i’r cyfarwyddwr mae’r holl “ei gael yn iawn” hyn yn tynnu’r sylw mewn modd cwbl amherthnasol, yn dreth ar allu ymenyddol pawb ar rywbeth sydd, o’i safbwynt hunanol ef ei hun, yn ymgais ddibwrpas, heblaw wrth gwrs os bydd yr olygfa yn parhau i dorri i lawr – fel y bydd o reidrwydd yn y cyfnod cynnar hwn – yna ni fydd neb yn gallu cyrraedd unlle. Mae hyn i gyd yn gofyn am oddefgarwch ac amynedd rhyfeddol gan bawb sy’n rhywbeth, rhaid cyfaddef, nad oes gen i lawer ohono! Y rheswm am hynny yw fod y rihyrsals cyntaf hyn, pan fydd pob tudalen yn newydd ac am y tro cyntaf, yn ofnadwy o gyffrous a heriol, ac yn y munudau anhrefnus a dryslyd hyn gwneir penderfyniadau a chymerir troeon fydd yn dal i ddwyn canlyniadau wythnosau yn ddiweddarach. Felly tra eu bod i gyd yn glynu wrth yr angen am gywirdeb fel morwyr wedi’u llongddryllio ar rafft, rwy i’n gwneud fy ngorau glas i’m gollwng fy hun yn rhydd ar y môr mawr a gadael i’m greddf ddweud wrthyf i beth yw’r cam nesaf ymlaen!

Ychwanegu sylw