DP's blog: Lulu wythnos 2

Posted on Maw, 2013-01-29 10:48 by David Pountney

Fe gyrhaeddom ddiwedd yr opera, ac roedd hynny’n teimlo fel carreg filltir arwyddocaol, er ein bod wedi gofod mynd heibio i un olygfa bwysig ar y ffordd wrth ddisgwyl i ddarn hanfodol ar gyfer y set gyrraedd - cerflun cain sy’n dod o Berlin, ac un olygfa bwysig arall wrth inni ddisgwyl i Alan Oke ddod yn ei ôl o ganu yn The Minatour yn y ROH. Mae gweddill y set wedi ei hadeiladu’n fendigedig yn ein gweithdai CTS ein hunain, ac mae’n edrych yn drawiadol dros ben yn yr ystafell ymarfer. Dyma’r sefyllfa  de luxe rydym ynddi diolch i Ganolfan y Mileniwm – ystafelloedd ymarfer o faint llawn gyda mynediad rhwydd i’r llwyfan a’r mannau llwytho fel gall y set gyfan gael ei gosod yn ei lle yn yr ystafell ymarfer. Nid oes gan Opera Wladol Fienna ystafell o’r fath, er enghraifft, er nad ydynt yn credu mewn ymarfer beth bynnag! (wps – ddywedais i hynna? Doeddech chi ddim yn gwrando, nac oeddech?)

Mae cryn dipyn o glownio wedi bod yr wythnos yma - clownio dan reolaeth mae’n rhaid ychwanegu! – ond rwy’n gwneud ati i beidio ag esgusodi’r elfennau o ffars, syrcas a Dada sy’n gymaint nodwedd ar y gwaith hwn ac yn wir o’r hinsawdd gelfyddydol gyfan y cafodd y gwaith hwn ei greu ynddi. Meddyliwch am yr holl baentiadau syrcas hynny gan Picasso, Beckmann, Chagall. Mae’r olygfa olaf yn enghraifft. Mewn un ystyr mae hi’n olygfa erchyll o ddial gwrywaidd creulon, sy’n gorffen gyda Jac y Rhwygwr yn lladd Lulu. Ac mae’r deng munud olaf yn cael eu lliwio gan y gerddoriaeth delynegol goeth sy’n disgrifio’r gariad o ferch sydd gan Lulu, yr Iarlles Geschwitz, sydd wedi dilyn Lulu bob cam i’r ufferndwll yn Nwyrain Llundain er mai’r hyn mae hi’n dyheu am ei wneud mewn gwirionedd yw astudio ac ymladd dros hawliau merched. Ond y mae ing ei geiriau, ac arswyd yr hyn sy’n dilyn, yn gweithio mewn ffordd mor dorcalonnus oherwydd y comedi Dadaidd pur sydd o’u blaenau. Mae cleient cyntaf Lulu, yr “adlais” o’i gŵr a’i hysglyfaeth cyntaf, yr Athro Meddygaeth, yn ddiwinydd o’i gof yn yr hen gôt law fudr honno sy’n mynnu cadw diofryd o dawelwch fel petai’n fynach. Mae’r ail yn “Ddyn Du” ystrydebol feddw a allasai fod yn bartner dawnsio i Josephine Baker. Cawsom symudiadau chwimwth iawn gan Mark Le Broq, ar waetha’r ffrâm fawr sydd ganddo – onid yw hi’n ddiddorol pa mor aml y mae dynion mawr yn ddawnswyr da? Ond wedi’r holl gabare hwn mae’n troi ac yn llofruddio’r cyfansoddwr Alwa (ac felly oni ddylai’r opera ddod i ben yn syth?) ac o’r foment honno ymlaen, mae pob gwên yn diflannu oddi ar ein hwynebau. Dyma un o olygfeydd mwyaf byd yr opera i gyd!

Stori arswyd arall yr wythnos oedd iechyd a diogelwch… Mae’r set yn fath o fframwaith syrcas sy’n sgrechian am gael dringo arno, siglo oddi arno, sefyll ar ei ben ac yn y blaen. A phob tro y bydd rhywun yn codi 5cm oddi ar y llawr bydd Katie – y rheolwraig llwyfan – sydd mor ddyfal a’i hamynedd yn ddi-ben-draw, yn gwneud mymryn o asesiad risg. Ar y pwynt hwnnw rwyf i fod yn fy meddwl i wisgo fy siwt Prif Weithredwr ac ymateb gyda’r sobreiddiwch priodol, yn lle gwneud sylwadau bach ffraeth sarcastig, sef yr hyn sy’n tueddu i ddigwydd. Fodd bynnag, gan fod Jan, ein cyfarwyddwr technegol, yn f’atgoffa, mor ddymunol â phosibl, y byddwn i’n gyfrifol yn bersonol pe bai unrhyw beth yn digwydd, mae’n rhaid imi geisio gwella fy ffyrdd. Rwy’n addo, Katie!