DP's blog: Lulu wythnos 3

Posted on Maw, 2013-01-29 12:39 by David Pountney

Rydym wedi bod drwy’r darn cyfan o ddifri nawr, ac wrth i niwl gwlad nas darganfuwyd glirio a’i hamlinell ddod yn fwy eglur mae ffigwr bychan, enigmatig, hudolus, amhosibl ei hadnabod, Lulu, yn dod atom ar flaen ei thraed, yn dod yn nes, ond byth yn cyffwrdd. Weithiau mae hi’n ymddangos yn fflyrtaidd, weithiau’n oriog, weithiau’n oeraidd, ddifater, weithiau fel plentyn, weithiau cyn hyned â thragwyddoldeb, ond nid yw’r fêl fyth wedi’i thynnu’n llwyr. Yn hytrach, eraill sy’n cael eu datgelu yn ei drych hi, y cymeriadau eraill, yr oriel egsotig o ecsentrigion a misffitiaid sy’n casglu o’i chwmpas ac sydd, fel petai, yn gyfatebiaeth gorfforol o gatalog Leporello. Ceir yr hen Schigolch, y bachgen ysgol yn ei arddegau, y dyn grymus Primat-alpha, yr acrobat gwirion, y cyfansoddwr sy’n twyllo ei hun, y Tywysog Affricanaidd ymhonnus a’r Marcwis gwenwynllyd, slebogaidd.

Mae’n fy nharo i fod cyfarfod â Lulu i’r bobl hyn i gyd, ac i ninnau hefyd mae’n debyg, fel bod mewn rhyfel: mae’n sefyllfa eithafol sy’n datgelu ac yn chwyddo nodweddion cynhenid pawb. Mae’r Marcwis yn mynd hyd yn oed yn fwy slebogaidd, yn sefyll ac yn canu rhyw lun ar Schubert Lied am ei broffesiwn: delio mewn merched ifanc. Mae’r acrobat yn tyfu’n anhygoel o hunanbwysig, gan ein diddanu ag aria am y leotard pinc diweddaraf y mae wedi’i gomisiynu ar gyfer ei act. Mae’r bachgen ysgol yn tyfu’n arwr – fel rhywun allan o Boy’s Own Story. Mae’r dyn grymus yn cael ei yrru allan o’i gof bron gan y ffaith ei fod wedi dod o hyd i’r un bod fechan hon y mae’n methu’n llwyr â’i rheoli, mae’r cyfansoddwr yn cyfeirio’i chorff i fod yn gyfres o gyfarwyddiadau cerddorol, ac mae’r Iarlles Geschwitz o’r diwedd yn canfod ei gwir dynged – ymgyrchu dros hawliau merched – yn union cyn i’r dynged honno cael ei therfynu gan Jac y Rhwygwr.

Mae rhyw wamalrwydd nerfus yn perthyn i’r rihyrsals hyn, fel pe bai pawb yn ymwybodol nad yw’r grym cnawdol, erotig yr ydym yn ymdrin ag ef ddim ond yn cael ei gadw dan reolaeth gan arferion ymddygiad proffesiynol, a bod y darn yn ein gwahodd i droedio’n agos i ffiniau’r posibl, yn union fel y mae ei iaith gerddorol yn ei wneud. Mae Berg wrth gwrs yn pentyrru’r tensiwn yn y ddeialog hon rhwng penrhyddid llwyr Lulu ei hun, nad yw’n cydnabod unrhyw reolau ond sydd bob amser yn driw iddi hi ei hun, a chyfyng-gyngor arteithiol y cymeriadau eraill sy’n gwybod am y rheolau ac yn eu cydnabod ond yn eu torri’n ddi-baid, ac yn eu bradychu hwy eu hunain wrth wneud, drwy adeiladu ei strwythur cerddorol cymhleth ei hun. Y staes hon o ffurfioldeb cerddorol, nad oes angen i unrhyw gynulleidfa wybod amdani na hyd yn oed geisio’i deall, yw’r cylch cowper sy’n dal y pecyn ffrwydrol cyfan gyda’i gilydd.

Y peth gorau amdano yw fod ein Lulu annwyl ein hunain, Marie Arnet, yn dal i wenu, ac mae’r wên honno – nad yw wedi’i llwfrhau gan fil o nodau a newidiadau tempo a thomennydd o eiriau i’w dysgu – yn lledaenu’i hun o amgylch yr ystafell ymarfer, a gobeithio yn dod â’r gorau, neu efallai weithiau y gwaethaf, allan ynom ni, yn union fel y dylai Lulu.

 

Ychwanegu sylw