DP's blog: Lulu wythnos 4

Posted on Maw, 2013-01-29 12:41 by David Pountney

Credwch neu beidio rydym nid yn unig wedi dod i ben, ond wedi ffarwelio ddydd Gwener â’n gofod ymarfer clyd, cyfarwydd ond moethus, a “kleine Lulu” wedi cymryd ei chamau cyntaf allan yn y byd mawr oer, wedi cyflawni ymarfer llawn oedd bron yn gwbl ddidramgwydd, a syfrdanodd Lothar braidd, oedd wedi bod yn tendio’i gerddorfa drwy’r wythnos ac a oedd felly’n eithaf syn o weld pa mor bell ymlaen oedd pawb. Dyma’r man cychwyn cyntaf, fel petai, ac mae’r adegau hynny pan fydd yr opera gyfan yn dod at ei gilydd o fewn un ystafell bob amser yn brofiad go arbennig: ni fydd fyth yr un mor agos atoch eto, gyda bydd peirianwaith a phellter y llwyfan a’r awditoriwm yn cymryd drosodd.

Rydym wedi cael yr hwyl ychwanegol yr wythnos hon o gyflwyno’r hyn sy’n digwydd go iawn i dri aelod o’r gerddorfa, gan gynnwys pianydd athletaidd iawn sy’n rasio ar draws y llwyfan ac yn cyrraedd y piano mewn union bryd i fwrw allan rai o gordiau crensiog gwych Alban Berg gyda Heather, arweinydd yr ail feiolinau, ar y gair yn mynd ati ar wib dros ei hofferyn cyfan gyda chadensa ffrenetig, tra bo Lulu a’r acrobat yn dechrau ar ddawns fale athletaidd. Mae’n dipyn o hwyl. Eiliadau’n ddiweddarach, arweinir Mario, sy’n chwarae rhan chwaraewr acordion dall, ar draws y llwyfan yn gwasgu’i offeryn gwichlyd wrth i Lulu a’r iarlles sy’n edmygydd ohoni fynd drwy eu deialogau bach rhywiol.

Oes, mae ’na ddeialogau hefyd – yn wir pob gradd bosibl o destun cyn cael ei gyflwyno o ddeialog bur, i ddeialog rythmig, i ddeialog wedi’i hanner lefaru/hanner canu, at y canu llawn - nerth eu pennau! Ar hyd y gert sglefrio hon o arddulliau rydym yn cyflwyno’r ddeialog lafar bur mewn ffordd reit arbennig, fel ei bod yn cyfrannu’n fawr at awyrgylch y noson ac nad yw’n rhoi’r teimlad hwnnw o siom fach sy’n digwydd yn aml pan fydd y canu’n gorffen – ond mae SUT y byddwn yn gwneud hyn yn gyfrinach gen i … ond mae’n rhan o’r gamp fod Berg yn mynnu fod pob agwedd ar arddulliau operatig yn cael eu lle, o goloratwra blodeuog, jas (neu ei debyg!), ensembles sy’n mynd yn ôl ac ymlaen, a dyn a ŵyr beth arall.

Yn y cyfamser, alla’i ddim peidio â sôn, ym mhen Scenery St. fel y gelwir y coridor mawr a drafftiog sy’n cysylltu’r tair ystafell ymarfer, fod cyfnither wladaidd Lulu wedi cyrraedd, ac y cafodd ei gweld yn fuan iawn yn neidio a champio’n rhydd yn ei chlytwaith o goedwig werdd: y Genawes Fach Gyfrwys. Rwy’n gobeithio eich bod wedi sylwi erbyn hyn ein bod yn fwriadol wedi dod â’r ddwy chwaer hon at ei gilydd mewn un tymor fel y gallwch gael yr hwyl o gymharu eu tynged a’u cymeriadau, heb sôn am y clic rhyfedd o ddynion y mae’r ddwy ferch sionc yn eu casglu o’u cwmpas. Rwy’n cyfaddef, rwy innau’n un hefyd: alla’ i ddim maddau i’r un o’r ddwy!