Canghennau Cyfeillion WNO

Mae Canghennau Cyfeillion yn trefnu digwyddiadau i godi arian ar gyfer WNO. Mae croeso i bawb fynychu.


Cyfeillion Bryste a De Orllewin Lloegr 

Cyswllt: Melanie David | 01934 842014 | melaniejdavid@btinternet.com
Lleoliad: Yr Ystafell Apostol, Eglwys Gadeiriol Clifton, Bryste (mynediad drwy Worcester Road)
Mynediad: Cyfeillion WNO a Phartneriaid WNO £8, Ymwelwyr £10

Death in Venice gan Britten
Dyddiad Mer 17 Ebr 2024 7.15pm
Bydd yr awdur a’r darlledwr Nigel Simeone yn trafod sgôr Britten a’i berthynas agos gyda stori wreiddiol Thomas Mann.

Noson gyda Gwyn Hughes Jones
Dyddiad Mer 15 Mai 2024 7.15pm
Gwnaeth y tenor Gwyn Hughes Jones ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn 1995 gyda WNO fel Ismaele yn Nabucco. Ers hynny, mae e wedi perfformio yn llawer o dai opera mwyaf y byd.  Bydd Gwyn yn trafod am ei yrfa mewn sgwrs gydag Andrew Borkowski.

Trioleg Puccini
Dyddiad Mer 19 Meh 2024 7.15pm
Bydd Ian Cartwright yn edrych ar yr amrywiaeth a geir yn y tair stori sy’n sail i operâu yr Il trittico, a berfformir gan WNO ym mis Mehefin 2024. Rhagflaenir gan y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.


Cyfeillion Gogledd Cymru 
Cyswllt: Roz Jones | 01492 860251 | rozjones@uwclub.net

Cyngherddau Coffi codi arian yn Llandudno yn ystod wythnosau Gwanwyn a Hydref WNO yn Venue Cymru. Bydd y manylion yn ymddangos yn y fan hon ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.


Cyfeillion Rhydychen
Cyswllt Bernadette Whittington | 01844 237551 | bwhittington2@btinternet.com

Digwyddiadau codi arian yn Rhydychen gan gynnwys y ‘Castaway’s Choice’ blynyddol ac Opera Haf yn New College, yn ogystal â theithiau bws achlysurol i berfformiadau WNO mewn lleoedd eraill. Bydd y manylion yn ymddangos yn y fan hon ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.

La vera constanza Haydn 
Perfformiad gan New Chamber Opera, yng Ngardd y Warden, gydag egwyl a phicnic i swper yn y clastai (dewch â’ch bwyd eich hun).
Dyddiad Sul 30 Meh 2024 6.30pm
Mynediad Gardd y Warden, Y Coleg Newydd, Stryd Holywell, Rhydychen OX1 3BN
Tocynnau £44 gan gynnwys diod cyn y perfformiad
Cyswllt  Bernadette Whittington bwhittington2@btinternet.com | 01844 237551 | 07813 907466


Cyfeillion Abertawe a Gorllewin Cymru  
Cyswllt: Jennifer Macleod | 01792 463936 | macleod.jennifer@hotmail.com

Cyngherddau codi arian yn Abertawe gydag amrywiaeth o gerddorion a pherfformwyr gan gynnwys cantorion opera ifanc. Bydd y manylion yn ymddangos yn y fan hon ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.