Adrian Thompson

Y Wrach Hansel & Gretel

Hyfforddwyd Adrian Thompson yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall, lle mae bellach yn Athro. Mae ei glodrestr operatig yn cynnwys rhan y teitl Peter Grimes, Monostatos Die Zauberflote, Skuratov From the House Of The Dead a Canio Pagliacci (Frankfurt), Snout A Midsummer Night’s Dream (Teatro alla Scala); Valzacchi Der Rosenkavalier (ROH), Parch Adams Peter Grimes (Geneva), rhan y teitl The Diary of One Who Disappeared (Aix-en-Provence), Mr Upfold Albert Herring, Triquet Eugene Onegin, Athro Ysgol The Cunning Little Vixen (Glyndebourne), Monostatos The Magic Flute (ENO, Opera National du Rhin). Mae’n ddatgeiniad profiadol, ac wedi ymddangos ledled y DU ac Ewrop. Mae ei repertoire cyngherddau’n cynnwys Nawfed Symffoni Beethoven, Requiem Verdi a Das Lied von dêr Erde Mahler yn ogystal ag Efengylwyr Bach St John a St Matthew Passions. Yn y maes cyfoes, mae Adrian wedi rhoi sawl perfformiad cyntaf o waith cyfansoddwyr Prydeinig ac Ewropeaidd. Mae gwaith diweddar yn cynnwys Goro Madam Butterfly (Scottish Opera), Verdi Requiem yn y Barbican, Britten Canticles yn y Lied Festival Victoria de Los Angeles yn Barcelona a War Requiem yn Neuadd Dewi Sant. Bydd Adrian yn canu Noctambulist Louise yng Ngŵyl Buxton, Lady Macbeth of Mtsensk ar gyfer ENO ac Eisslinger Die Meistersinger von Nurnberg ar gyfer Gŵyl Glyndebourne.