Amanda Baldwin

Chorus!

Astudiodd Amanda Baldwin yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Margaret Cable, ac enillodd wobrau yn cynnwys gwobr Giulia Grisi a gwobr Cobbert and Hurlestone am berformio cerddoriaeth gyfoes. Mae ei pherfformiadau wedi eu darlledu ar BBC Radio 3 ac mae wedi canu fel unawdydd mewn cyngherddau mewn nifer o leoliadau arbennig, yn cynnwys Neuadd Frenhinol Albert. Mae wedi ymddangos ar y teledu fel Flora La traviata (S4C), fel Lolo The Merry Widow (BBC Wales a S4C), oll ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. Mae wedi cymryd rhan fel unawdydd mewn cyngherddau megis Elijah Mendelssohn, St Matthew a St John Passion Bach, Messiah Handel, Offeren yn C Leiaf a Requiem Mozart. Mae wedi canu nifer o rannau gydag Opera Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys Ail Sgweier Parsifal, Dryad Ariadne auf Naxos, Mercédès Carmen, Feklusha Katya Kabanova, Flora La traviata, Lolo The Merry Widow, Modryb Madam Butterfly, Trydydd Aderyn The Sacrifice, Pedwerydd Macwy Lohengrin a Llais Ail Unawdydd Moses und Aron. Mae Amanda yn gweithio fel cantores jas llawrydd gyda nifer o fandiau ad-hoc yng Nghaerdydd ac mae’n perfforio’n gyson mewn digwyddiadau corfforaethol a phreifat.