Benjamin Davis

Cyfarwyddwr Ail-lwyfannu Cynhyrchiad Hansel & Gretel

Roedd Benjamin Davis yn gyfarwyddwr staff yn Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 2001-2011 cyn iddo ddechrau gweithio’n llawrydd. Mae wedi cyfarwyddo operâu megis La Rondine (Royal Conservatoire of Scotland), Cosi fan tutte, Il Tabarro a Star-cross’d Lovers (WNO); Il Trittico ar gyfer Opera Zuid; Opera Scenes ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; Les Illuminations ar gyfer Gŵyl Ddawns Ryngwladol Caerdydd (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru); Al gran sole carico d’amore fel Cyfarwyddwr Cyswllt i Katie Mitchell (Gŵyl Salzburg a Kraftwerk Mitte ar gyfer Staatsoper Unter den Linden); Coreograffydd Orest (De Nederlandse Opera). Bu’n gweithio ar y cyd â Katie Mitchell fel cyfarwyddwyr artistig ar y première byd o Written on Skin George Benjamin (Gŵyl Aix ên Provence), a ail-lwyfannodd ar gyfer Le Capitole de Toulouse, Theater ân dêr Wien, Prinzregententheater a L’Opera Comique. Fel cyfarwyddwr Ail-lwyfannu Cynyrchiadau: Gianni Schicchi (Tŷ Opera Cenedlaethol); The Queen of Spades, Wozzeck, Tosca (WNO); coreograffydd yr ail-lwyfaniad o Jephtha (Royal Danish Opera); Hansel & Gretel (Bayerische Staatsoper a Portland Opera). Ymysg y prosiectau y bydd yn eu cyfarwyddo yn y dyfodol mae opera Vaughan Williams Sir John in Love (Royal Conservatoire of Scotland), ail-lwyfaniad o Carmen (Opera’r Alban), Ariodante (De Nederlandse Opera a’r Canadian Opera), Gianni Schicchi (Tŷ Opera Cenedlaethol) a chynhelir cyfres o gyngherddau teithiol drwy Ewrop o Written on Skin gyda Cherddorfa Simffonia Mahler.