Caroline Chaney

Cyfarwyddwr Ail-lwyfannu Cynhyrchiad The Magic Flute

Ganed Caroline Chaney ym Manceinion. Mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr staff ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru ers 1991, yn helpu nifer o gyfarwyddwyr ar fwy na 50 o wahanol gynyrchiadau. Yn ystod ei chyfnod yn WNO mae wedi cyfarwyddo La boheme chwe gwaith, ar gyfer y daith genedlaethol ac ar gyfer Gŵyl Gelfyddydau Hong Kong. Hefyd mae wedi ail-lwyfannu a chyfarwyddo Madam Butterfly, Eugene Onegin, Turandot, Carmen, The Magic Flute  a dau wahanol gynhyrchiad o The Marriage of Figaro.  Y llynedd ail-lwyfanodd Manon Lescaut  a Nabucco ar gyfer taith y Cwmni i Ŵyl Opera Savonlinna. Yn y 1980au bu’n cydweithio ar symudiadau gyda’r cyfarwyddwr Mike Ashman ar gyfer Cavalleria rusticana  ac I pagliacci  ar gyfer Opera-Go-Round Opera’r Alban a Facade Walton ar gyfer Gŵyl Sain Dunwyd. Yn ystod ei gyrfa mae hefyd wedi bod yn rheolwr llwyfan, yn gwneud gwaith gyda phypedau, actio, yn rheolwr llawr i’r BBC, ac yn rheolwr cwmni i WNO a Glyndebourne.