Daniel Grice

Papageno The Magic Flute (12, 13 Mawrth)

Cafodd Daniel Grice ei hyfforddi yn y Guildhall School of Music and Drama ac mae'n parhau â’i astudiaethau gyda Robert Lloyd. Mae’r rhannau mwyaf diweddar iddo eu canu mewn operâu’n cynnwys Schaunard La boheme, Rocheford Anna Bolena,  Angelotti Tosca a Dyn Arall/Ephraimite Moses und Aron (WNO), Schaunard and Chennad Fflemaidd Don Carlo (Tŷ Opera Cenedlaethol), Pastore/Spirito Orfeo (Opera National de Lorraine), ac Escamillo Carmen (Neuadd Frenhinol Albert). Roedd yn aelod o Raglen Artist Ifanc Jette Parker y Tŷ Opera Cenedlaethol rhwng 2010 a 2012 a bu’n canu rhannau Faust  Wagner, Heliwr Rusalka, Marquis d’Obigny La traviata, Pinellino Gianni Schicchi, Milwr/Mercure Les Troyens, Enrico L’isola disabitata, Fiorello Il barbiere di Siviglia, Comisiynydd Madam Butterfly, yn ogystal â bod yn ganwr dirprwyol ar gyfer rhan Papageno Die Zauberflote a Wolfram Tannhauser. Cyn ymuno â’r rhaglen, bu hefyd yn canu rhan Cennad Fflemaidd Don Carlo a rhan ddirprwyol Leone Tamerlano (Tŷ Opera Cenedlaethol). Mae hefyd wedi canu Papageno The Magic Flute  (English Touring Opera), Bogdanowitsch The Merry Widow  (Opera’r Alban), rhan ddirprwyol Yamador Madam Butterfly (Opera Cenedlaethol Lloegr), Nick Shadow The Rake’s Progress (Gŵyl Iford Arts a Gŵyl Aldeburgh), Prince de Bouillon Adriana Lecouvreur, Medico, Sicario a Servo Macbeth  a Leuthold Guillaume Tell (Chelsea Opera Group). Yn y dyfodol bydd yn canu rhan Zoroastro Orlando (WNO).