David Pountney

Cyfarwyddwr Chorus!

Daeth David Pountney yn adnabyddus yn rhyngwladol drwy ei gynhyrchiad o Katya Kabanova yng Ngŵyl Wexford 1972. Rhwng 1975 ac 1980, bu'n Gyfarwyddwr Cynyrchiadau ar gyfer Scottish Opera. Roedd cynyrchiadau yno’n cynnwys cylch Janáček mewn cydweithrediad ag WNO. Cyfarwyddodd y perfformiad cyntaf erioed o Toussaint David Blake ym 1977 (ENO) ac aeth ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau ENO ym 1980, gan gyfarwyddo dros 20 o operâu.  Mae wedi cyfarwyddo nifer o berfformiadau cyntaf y byd, gan gynnwys tri gan Peter Maxwell Davies, yr ysgrifennodd y libreto ar eu cyfer hefyd,  ac fe gyfieithodd operâu i’r Saesneg o’r Rwseg, Tsieceg, Almaeneg ac Eidaleg. Fel cyfarwyddwr llawrydd o 1992 bu'n gweithio’n rheolaidd yn Zurich, yn Opera Gwladwriaeth Vienna, Bayerische Staatsoper, yn ogystal â thai opera yn America a Siapan, ac yn y DU mae ganddo gysylltiad hir-sefydlog gydag Opera North. Derbyniodd fedal Janáček am ei gylch Janáček yng Nghymru a'r Alban, a medal Martinů am ei gynyrchiadau o Julietta a The Greek Passion (Opera North; Gŵyl Bregenz). Mae ei gynyrchiadau wedi ennill Gwobr Olivier ddwywaith. Mae gwaith diweddar yn cynnwys Prince Igor, The Passenger (Houston, Efrog Newydd); Kommilitonen, ei drydydd opera a ysgrifennwyd ar y cyd â Peter Maxwell Davies (Academi Gerdd Frenhinol; perfformiad cyntaf yr Unol Daleithiau yn Ysgol Juilliard, Efrog Newydd); opera newydd Philip Glass, Spuren der Verirrten, ar gyfer agoriad tŷ opera newydd yn Linz a enillodd y Wobr Schickaneder ar gyfer y cynhyrchiad opera gorau yn 2013; Die Zauberflöte ar gyfer y llwyfan llyn yn Bregenz, lle mae wedi bod yn Arolygwr ers 2003. Ers 2011 mae wedi bod yn Brif Weithredwr ac yn Gyfarwyddwr Artistig WNO, lle bu'n cyfarwyddo William Tell a Moses in Egypt yn ddiweddar. Mae'n CBE, Chevalier Ordre des Arts et Lettres Ffrainc, gyda Chroes y Cafalîr ar gyfer Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, ac fe’i dyfarnwyd â'r Ehrenzeichen des Bundes Österreich yn 2014, ac mae newydd gael ei ddyfarnu gyda Chymrodoriaeth Anrhydeddus o CBCDC i gydnabod ei gyfraniad fel artist ac arweinydd diwylliannol.