Erik Nielsen

Conductor Peter Pan

Ganed Erik Nielsen yn Iowa yn 1977, a bu’n canu’r Delyn gyda Ffilharmonig Berlin cyn dod yn Kapellmeister Opera Frankfurt rhwng 2008 a 2012. Ef fydd Cyfarwyddwr Cerdd Theater Basel yn ystod tymor 2016/17 a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Bilbao ym Medi 2015. Astudiodd arweinyddiaeth yn Sefydliad Cerdd Curtis yn Philadelphia a graddiodd yn Ysgol Juilliard, Efrog Newydd. Fel cerddor cerddorfaol mae wedi chwarae’n broffesiynol o dan arweinyddion fel Barenboim, Dutoit, Mackerras, Previn, Rattle, Tilson Thomas a Zinman. Mae ei waith diweddar ac yn y dyfodol yn cynnwys The Magic Flute (Opera Rhufain); Simplicius Simplicissimus Hartmann a Henze’s Gisela!, yn ogystal â Karl May (Semper Oper Dresden); Cosi fan tutte (Teatro Nacional de Sao Carlos) a Lear Reimann Lear (Opera Malmo). Mae ei waith hefyd yn cynnwys Peter Grimes (Opernhaus Zurich), The Merchant of Venice (Gŵyl Bregenz), premiere byd Solaris gan Dai Fujikawa (Theatre des Champs-Elysees), The Rake’s Progress (Opera Wladol Hwngari) a Carmen (WNO). O ran cyngherddau, mae wedi perfformio gyda Cherddorfa Ddinesig Chicago, Alte Oper Frankfurt, Orquestra Sinfonica Portuguesa, Orchestre Philharmonique du Luxembourg, Ensemble Modern, Junge Deustche Philharmonie, Cerddorfa Symffoni Ieuenctid y Byd a’r Northern Sinfonia.