Geraint Dodd | Welsh National Opera

Geraint Dodd

Cecil Roberto Devereux

Ganwyd Geraint Dodd yn Rhosllanerchrugog, Gogledd Cymru ac astudiodd yn y Royal Northern College of Music gyda Joseph Ward. Gyda WNO mae wedi canu Florestan Fidelio, Cavaradossi Tosca, Pinkerton Madam Butterfly, Don José Carmen, Duke Rigoletto, Vogelgesang Die Meistersinger von Nürnberg a Macduff Macbeth. Rolau eraill yn cynnwys Canio I pagliacci (English National Opera; Opera North a Opera Holland Park); Florestan, Nadir The Pearl Fishers, prif rol Werther a Rodolfo La bohème (English Touring Opera); Turiddu Cavalleria rusticana (Raymond Gubbay Productions, Royal Albert Hall); Calaf Turandot a Radamès Aida (Opera Canol Cymru). Tramor mae wedi canu Pinkerton (Singapore Lyric Opera). Mae wedi gweithio gyda nifer o arweinwyr blaenllaw gan gynnwys Owain Arwel Hughes, David Lloyd Jones, Wilfred Boettcher a Stanislaw Skrowaczewski yn gweithiau megis Dream of Gerontius Elgar, Stabat Mater Rossini, Requiem  Verdi a Messiah Handel. Ymrwymiadau cyngherddol yn cynnwys Requiem  Verdi (Philharmonic Hall, Liverpool); Messa di Gloria Puccini (St Andrew’s University); Messe Solennelle de Sainte Cécile Gounod (National Concert Hall, Dublin). Gwnaeth ei cyngerdd gyntaf yn Ewrop mewn perfformiad o 9th Symphony  Beethoven (Orquestre de Sinfonica Portuguese, Lisbon).