Huw Llywelyn

Chorus!

Daw Huw Llywelyn o bentref Bethel yng Ngwynedd. Enillodd radd gydag anrhydedd o’r Benjamin Britten International Opera School yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn 2007. Tra bu’n astudio, enillodd wobrau ac ysgoloriaethau, yn cynnwys Sefydliad Wingate, Gwobr Yvonne Wells, Ysgoloriaeth James Pantyfedwen, Gwobr Susan Chilcott a Gwobr Wessex Glyndebourne. Enillodd Wobr Osborne Roberts yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau 2005. Hefyd cyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Stuart Burrows (2007). Mae Huw yn perfformio’n gyson mewn cyngherddau ac yn rhoi datganiadau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig a thramor, un o’i uchafbwyntiau oedd canu yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain yn Neuadd Frenhinol Albert (2004). Mae wedi canu rhan Nerone L’incoronazione di Poppea (BBIOS); Nemorino L’elisir d’amore, Thaddeus The Bohemian Girl (Opera South); Tyst Ffug St Matthew Passion, Arweinydd y Werin Eugene Onegin a rhan ddirprwyol i’r brif ran yn Albert Herring  (Glyndebourne Festival Opera). Ymunodd Huw â Chorws WNO yn 2008, ac mae wedi chwarae rhan y Trydydd Iddew Salome, Parpignol La boheme, Remendado Carmen, Pong Turandot,  Mosgito The Cunning Little Vixen  a Goleuwr Lampau/Meistr y Ddawns Manon Lescaut (yn cynnwys perfformiadau yng Ngŵyl Savonlinna).