Lothar Koenigs

Arweinydd Hansel & GretelThe Magic Flute

Daeth Lothar Koenigs yn Gyfarwyddwr Cerdd WNO yn 2009. Fe’i ganed yn Aachen ac astudiodd y piano ac arweinyddiaeth yn Cologne. Rhwng 1999 a 2003 bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cerdd yn Osnabruck, yr Almaen. Ers 2003 mae wedi bod yn gyfarwyddwr gwadd gyda’r Vienna State Opera, y Metropolitan Opera, Munich, Dresden, La Scala, Hamburg, Brwsel a Lyons, y repetoire yn amrywio o Mozart i Berg, gyda phwyslais arbennig ar operâu Wagner, Strauss a Janacˇek. Gweithiodd am y tro cyntaf gyda Cherddorfa WNO yn Ionawr 2005, ac fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd yn 2008, gan ddechrau gweithio yn nhymor 2009/10. Yn 2010 arweiniodd gynhyrchiad newydd llwyddiannus o Die Meistersinger von Nurnberg yn ogystal â’i arwain mewn cyngerdd a ddarlledwyd ar y teledu ym Mhroms y BBC. Mae wedi arwain symffonïau gyda’r Hallé, Beethoven Orchester Bonn, Orchestre Philharmonique de Luxembourg, Cerddorfa Symffoni Yomiuri Nippon Tokyo, Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, Radio Orchestra Saarbrucken, Cerddorfa RAI Turin, DSO Berlin, Orchestra dell’Accademia di Santa Cecilia Rome, Cerddordfa Ffilharmonig Rotterdam; Cerddorfa Sinfonica de Sao Paulo; Cerddorfa Symffoni Radio Berlin; Wiener Symphoniker; Dresden Philharmoniker yn Verona; a chyngherddau yng Ngŵyl Tanglewood. Yn ddiweddar bu’n arwain Tristan und Isolde, Lohengrin, Don Giovanni, Katya Kabanova, Fidelio, Ariadne auf Naxos, Turandot (WNO); The Rise and Fall of the City of Mahagonny (Cologne), Wozzeck, Ariadne a Lohengrin  ym Munich ac Elektra  yn La Monnaie yn ogystal â pherfformio cyngherddau yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Yn Awst 2012 arweiniodd gyngerdd Tristan und Isolde yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin. Yn 2014 ef a arweiniodd WNO yn y cynhyrchiad cyntaf i gael ei lwyfannu o Moses und Aron yn y Deyrnas Unedig ers 50 mlynedd, yn cynnwys dau berfformiad yn y Tŷ Opera Cenedlaethol. Yn y dyfodol bydd yn gweithio gydag WNO ar Pelleas et Melisande. Mae ei waith diweddar a’i ddarpar waith yn cynnwys Lohengrin ym Munich, Elektra yn Zurich a Daphne ym Mrwsel, yn ogystal â chyngherddau yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.