Sarah Crisp

Cyfarwyddwr Staff Hansel & Gretel

Ganed Sarah Crisp yn Lowestoft, Suffolk, ac fe’i hyfforddwyd yn y London Academy of Music and Dramatic Art. Ar ôl graddio gweithiodd gyda NoFit State Circus cyn ymuno â thîm rheoli llwyfan WNO. Mae wedi bod yn gyfarwyddwr cynorthwyol ar Semele (Opera Ieuenctid Prydain); The Magic Flute (Surrey Opera); The Vackees (One Small Step). Ers 2005 mae wedi bod yn gyfarwyddwr staff yn Opera Cenedlaethol Cymru gan weithio ar amryw o gynyrchiadau yn cynnwys The Queen of Spades, Hansel and Gretel, The Cunning Little Vixen, The Barber of Seville, Il trovatore a Tosca.  Hefyd cyfarwyddodd yr ail-lwyfaniad o La traviata  yn 2014. Yn 2013 cynorthwyodd Giles Havergal i lwyfannu cynhyrchiad newydd Opera North o Albert Herring  ac aethpwyd â’r cynhyrchiad hwn i Ŵyl Birgitta yn Tallinn, Estonia.