Sian Meinir

Chorus!

Daw Sian Meinir o Ddolgellau ac enillodd radd BA Anrhydedd o Brifysgol Cymru, Bangor. Yna aeth i’r Academi Gerdd Frenhinol gan ennill cymhwyster ôlradd Dip RAM a LRAM. Mae Sian wedi canu’n broffesiynol ers 1993, gan wneud ei hymddangosiad cyntaf yn canu rhannau i The Opera Factory a Batignano Opera Festival yr Eidal, cyn ymuno â Chorws y Tŷ Opera Brenhinol, lle mae wedi canu rhan Page Salome  a’r Forwyn Briodas Le nozze di Figaro. Yn 2003 ymunodd ag Opera Cenedlaethol Cymru ac mae wedi canu rhan Margaret Wozzeck, Annina La traviata, Inez Il trovatore, Giovanna Rigoletto, Kate Pinkerton Madam Butterfly, Rychtarka Jenu˚fa. Yn ddiweddar bu’n canu Lieder Schumannyn yn Eglwys Gadeiriol Bangor a Wesendonck Lieder  yn Eglwys Gadeiriol Southwark. Mae Sian yn perfformio’n gyson gyda’r ensembles lleisiol PEDW4R a CANTOrama!, ac mae wedi perfformio nifer o weithiau oratorio, gydag uchafbwyntiau megis: Offern yn B Leiaf Bach (Neuadd y Frenhines Elizabeth Hall a Neuadd Dewi Sant), The Kingdom  Elgar gyda Chantorion Monterverdi, a’r Elijah gyda Bryn Terfel a’r diweddar  Richard Hickox yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi ennill Gwobr Canwr Cymry Llundain, y Rhuban Glas, Gwobr Susan Chilcott, ac yn sgil hynny fe’i gwnaed yn Artist Ifanc y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. Mae’n Sian yn ei ystyried yn fraint beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae'n hyfforddwr lleisiol prysur.