Stephen Wells

Chorus!

Astudiodd Stephen Wells yn Seland Newydd a Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd lle enillodd Wobr Lieder Brigitte Fassbaender. Astudiodd ganu gyda Neil Howlett, Patrick McGuigan ac Enid Hartle, ac fe weithio ar rannau a repertoire gyda Sergei Leiferkus ac Andreas Scholl. Mae wedi canu gydag Wellington City Opera, Opera 74, Lakeland Opera, Bel Canto Opera, Claxton Opera, Guildford Opera, Opera Holland Park, Opera Les Azuriales, Onafhankeleijk Toneel (Yr Iseldiroedd), Scottish Ballet ac Opera North. Mae perfformiadau operatig yn cynnwys Count Le nozze di Figaro, Gugliemo Cosi fan tutte, Siaradwr Die Zauberflote, Smirnov The Bear, Plunkett Martha, rhan y teitl Eugene Onegin, Musiklehrer Ariadne auf Naxos, Dulcamara The Elixir of Love, Riccardo The Night Bell, Danilo The Merry Widow, Sid La fanciulla del West. Mae hefyd wedi perfformio a recordio’n aml gyda Chantorion y BBC, BBC Daily Service, Geoffrey Mitchell Choir a Chôr Cadeirlan Manceinion, a hefyd wedi ymddangos fel unawdydd gyda sawl côr a chymdeithasau corawl yn y DU. Ymunodd Stephen â Chorws WNO ym Mehefin 2009 lle mae rhannau wedi cynnwys Tywysydd Rigoletto, Ail Garcharor Fidelio, Lackey Ariadne auf Naxos, Comisiynydd y Wladwriaeth Madam Butterfly, Arglwydd Rochefort Anna Bolena.