Dechrau arni

Felly, pa un yw’r opera gyntaf berffaith i chi ei gweld? Gellir ateb y cwestiwn hwn mewn dwy ffordd. Un ffordd yw drwy feddwl am y pethau eraill rydych chi’n eu mwynhau a mynd i weld opera sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau. Y ffordd arall yw dewis opera o’r rhestr ‘Llwyddiannau Mwyaf’, y clasuron poblogaidd sydd wedi ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ers dros ganrif.

Ydych chi’n mwynhau ffuglen ramantus, stori serch dda ac yn gwybod nad oes diwedd hapus bob amser i’r rhai gorau ohonynt?

Mae Manon Lescaut a La traviata yn operâu fydd yn gwneud i chi wir bryderu am yr arwres sydd yn wraidd iddynt. Mae i’r operâu hyn gerddoriaeth fendigedig a byddwch yn sicr o golli deigryn neu ddau.

Ydych chi’n hoffi theatr a sinema ffilmiau celfyddydol sydd ychydig yn wahanol?

Mae The Fall of the House of Usher, Boulevard Solitude a Moses und Aron yn operâu i bobl sy’n hoffi gweld pethau cwbl wahanol, pobl sydd eisiau i’w profiad nesaf fod yn wahanol iawn i’r un o’i flaen. Mae gan yr operâu hyn gerddoriaeth a fydd yn eich tywys i fydau gwahanol ac fe’u cyflwynir mewn cynyrchiadau sy’n siŵr o fynd â’ch anadl.

Yn hoffi straeon cyffrous, rhywbeth sy’n gwneud i chi ddyfalu’n barhaus?

Manon Lescaut yw’r opera gyffrous eithaf. Mae’n un opera lle nad yw’n syniad da darllen y plot ymlaen llaw. Mae Manon Lescaut yn troi a throelli ac yn eich cadw ar bigau’r drain.

Yn hoff o weld golygfeydd ysblennydd  ac yn mwynhau tonau cyfarwydd?

Mae Nabucco yn cynnwys 'The Chorus of the Hebrew Slaves' sy’n un o’r darnau cerddoriaeth mwyaf poblogaidd erioed. Mae Nabucco yn llawn ysblander.