Important Message

Just to let you know that this page is no longer being updated as this event is now in the past.

See all Archive Performances

Dangos Ffilm I Had an Angel

Ieuenctid a Chymuned

Am y tro cyntaf yn y byd, mae Opera Cenedlaethol Cymru’n cyflwyno ffilm fer newydd WNO, I Had an Angel, sy’n cael ei pherfformio gan yr unawdwyr Owen Webb, Kate Woolveridge a Claire Groom, corws cymunedol a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Ysbrydolwyd gan bobl a straeon Cartref Gofal Dementia Ridings ac Ysgol Arbennig Brays yn Birmingham.

Mae gan ddau weithiwr gofal 30 munud i lenwi blwch gyda gwrthrychau arwyddocaol a fydd yn mynd gyda phreswylydd newydd i’w gartref gofal. Sut mae gwybod pa wrthrychau i’w dewis? Oes posib rhoi bywyd mewn un blwch? Yn digwydd mewn amser real, mae ffilm hyfryd Opera Cenedlaethol Cymru yn procio'r meddwl ac yn holi'r cwestiynau hyn.

Bydd trafodaeth ar ôl pob perfformiad.

Cyfansoddwr John O’Hara
Libretydd Karen Hayes
Cyfarwyddwr Symudiad Lee Fisher
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Mathew Beckett
Cynllunydd Ceri Townsend
Cynhyrchydd Claire Marshall

Unawdwyr Owen Webb, Kate Woolveridge, Claire Groom

Côr cymunedol

Cerddorfa WNO

 

Tocynnau £2