CrynodebBack to top

dydd Iau, Chwefror 22, 2018 - dydd Iau, Ebrill 19, 2018

Adfywiad

Mae Don Giovanni trahaus a charismataidd yn hudo ei ffordd o amgylch Ewrop. Mae’n cymryd beth mae ei eisiau ac yn byw am chwant, heb gydwybod. Pan lofruddiwyd un o’i gariadon, ymddengys bod ei lwc am newid. Mae’n canfod ei hun ar ffo, yn cael ei ddilyn gan hen gariadon a dyweddïau anfodlon a grym o du hwnt i’r bedd. Ond pan wrthoda dangos edifeirwch, mae dial yn anochel. Arweinia at ei ddiwedd yn y pen draw. 

Yn seiliedig ar chwedl Don Juan, mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru wedi’i leoli yn Oes Aur Sbaen. Adlewyrcha Mozart gomedi a thrasiedi yn wych yn y sgôr. Mae hyn yn cynnwys yr aria ‘Catalogue’ sy’n manylu ar 2065 o gariadon Giovanni, yr aria ‘Champagne’ befriog a drama fawr y diweddglo gwefreiddiol. 

  • Mae perfformiadau yn dechrau am 7pm, heblaw am yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 24 Chwe am 4pm
  • Bydd y perfformiadau yn para tua tair awr a pum munud gan gynnwys un egwyl 
  • Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)

#WNOgiovanni

Cefnogwyd gan Idloes Owen Society

Am fanylion am ddyddiadau, amserau a phrisoedd cliciwch ar eich theatr ddewisol ar y dde.

Cast a chreadigolBack to top

Leporello TBC
Donna Elvira Elizabeth Watts (ex. 23 Maw TBC)
Donna Anna TBC
Don Giovanni TBC
Commendatore Miklós Sebestyén
Don Ottavio TBC
Zerlina Katie Bray

Arweinydd James Southall

Cyfarwyddwr Wreiddiol John Caird
Cyfarwyddwraig y Diwygiad Caroline Chaney

CysylltiedigBack to top