Prynu Tocynnau

The Fall of the House of Usher

Cynhyrchiad newydd

Rhaglen dwbl

Usher House Gordon Getty
Première Byd

La Chute de la Maison Usher Debussy
Cwblhad gan Robert Orledge
Première Prydeinig o’r fersiwn newydd

Feiddiwch chi gamu i mewn i Dŷ Usher? Mae’n lle tywyll, dirgel, gyda’i feddwl ei hun yn ôl bob tebyg. Yn eu hoperâu un act mae Claude Debussy a Gordon Getty yn dwyn stori erchyll Edgar Allan Poe i’r llwyfan operatig.

Mae’r ddwy opera yn bwrw swyn hynod ormesol o fygythiad ac anesmwythder drosoch. Pur anaml y mae opera’n cael ei chysylltu ag iasau’r genre arswyd ond mae’r rhaglen ddwbl hon yn llwyddo i greu’r effaith a gaiff y ffilmiau arswyd gorau drwy chwalu’ch nerfau.

Camwch i mewn i Dŷ Usher ond gwyliwch tu ôl i chi.

'Am wefr i gael darn newydd gan Debussy i’w archwilio a darganfod synau, rhythmau a phrofiadau newydd y darn sbon gan Gordon Getty. Ffres, heriol a chyffrous.' 

David Adams, Arweinydd, Cerddorfa WNO

Synopsis

Roderick Usher is the last surviving male member of his family, living as a recluse in the vast ancestral home with his twin sister, Madeline. She is slowly dying of a disease for which her doctor seems unable or unwilling tofind a cause or a cure. Roderick begs an old friend to visit. Shortly after the friend’s arrival, Madeline dies and is buried in a vault beneath the house. In an attempt to calm the increasingly distracted Roderick, his friend reads to him from a medieval romance. As the climax of the tale is reached, the figure of Madeline appears – she had been buried alive and has clawed her way out of the vault to find her brother. Roderick is overcome by horror and as he and Madeline both confront death, the House of Usher collapses around them.

Arweinydd Lawrence Foster
Cyfarwyddwr David Pountney
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Genesis Polly Graham
Cynllunydd Niki Turner
Cynllunydd Fideo David Haneke

Mae cast Usher House yn cynnwys 
Roderick Usher Benjamin Bevan
Madeline Usher Anna Gorbachyova
Edgar Allan Poe Jason Bridges
Doctor Primus Kevin Short

Mae cast La Chute de la Maison Usher yn cynnwys
Roderick Usher Robert Hayward
Y Fonesig MadelineAnna Gorbachyova
Le Médecin Mark Le Brocq
L'Ami
William Dazeley

 

Mae pob perfformiad yn dechrau am 8pm ac eithrio 15 Mehefin am 2pm

Mae’n para am oddeutu 2 awr gydag un egwyl

Mae La Chute de la Maison Usher yn cael ei chanu yn Ffrangeg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd)

Mae Usher House yn cael ei chanu yn Saesneg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd)

Mae Usher House yn gydgynhyrchiad gydag Opera San Francisco

Archwilio ar-lein

Dinasoedd