Prynu Tocynnau

Madam Butterfly

Giacomo Puccini

Mae Cio-Cio-San yn edrych ar y môr ac yn gobeithio yn ei chân y bydd ei Lefftenant o America yn dychwelyd i’w breichiau. Dair blynedd ar ôl iddo adael, mae hi’n dal gafael yn dynn yn y gobaith y bydd hi’n ei weld ef eto. Yna mae’n dychwelyd, ond gyda’i wraig newydd o America, Kate…

Y drasiedi sy’n dilyn yw’r hyn sy’n gwneud stori Cio-Cio-San yr opera Eidalaidd fwyaf teimladwy. Mae’r aria ‘One fine day’ yn dangos sut mae Puccini yn defnyddio pob nodyn yn feistrolgar i drwytho ei gynulleidfa yn stori drasig Cio-Cio-San.

Mae cynhyrchiad clasurol Joachim Herz, gydag arlliw sepia, fel hen lun hardd. Mae’n gipolwg hiraethus ar fyd diflanedig. Mae Madam Butterfly yn argoeli i fod yn noson deimladwy a syfrdanol yn y theatr.

Cefnogwyd gan Grŵp Noddwyr WNO.

"Mae’n dod â deigryn i’m llygad bob amser!"
@kimhutchings331 @WNOtweet

Mae’r cyfan yn digwydd mewn tŷ sy’n edrych dros Nagasaki rhwng 1889 a 1892, ychydig cyn dechrau’r rhyfel Sino-Japaneaidd.

Act 1

Mae’r Is-gapten Americanaidd, Benjamin Franklin Pinkerton wedi’i ymrwymo i briodi’r geisha Cio-Cio-San, a gaiff ei hadnabod fel Madam Butterfly. Dangosa Goro, y sawl a drefnodd y ‘briodas Japaneaidd’, y tŷ a’r morwynion y mae wedi eu prynu. Ymuna’r Conswl Sharpless Americanaidd â hwy, ac fe eglura Pinkerton ryddid ei gytundebau amrywiol - gall ddiddymu’r briodas pryd bynnag y mynno, gyda mis o rybudd ymlaen llaw. Rhybuddia Sharpless ef i fod yn ofalus rhag brifo teimladau ei wraig yn ormodol, ond, y mae’n cadw’n dawel wrth i Pinkerton gynnig llwncdestun i’w ddyfodol, a’i wraig go iawn yn America.

Cyrhaedda’r parti priodas: Cio-Cio-San, ei chymdeithion o geishas a’i holl berthnasau. Y mae pawb yn cyflwyno ei gilydd, ac fe ddarperir adloniant i’r gwesteion. Dangosa Cio-Cio-San ei heiddo personol i’w gŵr. Mae’n hi’n fodlon i droi ei chefn ar greiriau ei chrefydd - nid yw hynny’n ei phoeni o gwbl - ond nid yw’n barod i daflu cleddyf ei thad a anfonwyd ato gan y Micado. Cynhelir y seremoni, ac mae’r manylion ariannol yn cael eu cwblhau. Er gwaethaf ymdrechion Pinkerton, nid oes modd iddo chwalu’r berthynas nes i gri’r offeiriad darfu ar y parti. Y mae’n darganfod fod Madam Butterfly wedi troi ei chefn ar ei ffydd, ac mae’n datgan ei felltith yn gyhoeddus. Yn sgil ffyrnigrwydd Pinkerton, mae ef a’r gwesteion syn yn ei heglu hi oddi yno.

Cysura Pinkerton ei wraig gydag addewidion annwyl. Yn raddol, mae ei eiriau cariadus yn ei thynnu allan o’i chragen wrth iddynt baratoi ar gyfer eu noson briodas.

Egwyl

Act II rhan 1

Mae tair blynedd wedi mynd heibio. Fe adawodd Pinkerton ei wraig newydd yn fuan. Mae Suzuki’n grediniol na ddaw byth yn ôl, ond mae Butterfly yn bendant o’r farn y bydd ei long yn ymddangos ar y gorwel ar ddiwrnod braf. Mae hi’n llygaid ei lle, gan fod Pinkerton yn dychwelyd i Nagaskai ar ddyletswydd, gyda’i wraig newydd o America. Mae’r Conswl Sharpless wedi cael ei anfon ymlaen llaw i ddweud y newyddion.

Ar ei gyrhaeddiad, y mae’n rhyfeddu wrth weld caredigrwydd Butterfly. Wrth iddo gelu’r gwir, daw Goro i darfu arnyn nhw, sydd wedi dod â charwr newydd i Butterfly, sef y Tywysog Yamadori. Wedi iddynt gael llonydd unwaith eto, ceisia Sharpless ddarllen llythyr Pinkerton iddi. Mewn chwinciad, try ei hapusrwydd i anghrediniaeth lwyr, pan ofynna iddi beth fyddai hi’n ei wneud os na fyddai Pinkerton yn dychwelyd, y mae’n ymbil arni i dderbyn Ymadori. Ei hateb yw nôl y plentyn a gafodd gyda Pinkerton. Esgusoda Sharpless ei hun.

Mae sŵn canon yr harbwr yn nodi fod llong Pinkerton wedi cyrraedd. Mae Cio-Cio-San a Suzuki yn llenwi tŷ â blodau wrth iddynt aros amdano.

Intermezzo

Act II Rhan 2

Daeth y noson o aros i ben. Mae Cio-Cio-San yn cael seibiant, a Suzuki yw’r sawl sy’n cyfarch cyrhaeddiad gofalus Pinkerton, Kate ei wraig a Sharpless. Mynna Kate fabwysiadu’r plentyn. Dewisa Pinkerton adael, yn hytrach na wynebu’r briodferch a fradychodd. Rho bres i Sharpless er mwyn gwneud yn iawn â hi. Pan mae Butterfly yn dod yn ei hôl ac yn dod i delerau â’r gwirionedd, yn bwyllog fe wrthoda’r pres. Dywed wrthynt os daw Pinkerton yn ei ôl mewn hanner awr, caiff fynd â’r plentyn gydag ef. O’r diwedd, a hithau’n hollol unig, penderfyna farw. Ffarwelia â’i bachgen bach, cymera gyllell ei thad, ac mae’n lladd ei hun, ychydig funudau cyn i Pinkerton ddod yn ei ôl i gasglu’r plentyn.

Arweinydd Simon Phillippo
Cyfarwyddwr Joachim Herz
Cyfarwyddwr Adfywio Caroline Chaney
Dylunydd Reinhart Zimmermann
Dylunydd y Gwisgoedd Eleonore Kleiber
Dylunydd y Goleuadau John Waterhouse
Gwireddir y goleuadau ar daith gan Benjamin Naylor
Meistr y Corws Stephen Harris
Paratoadau Cerddorol Russell Moreton
Cyfarwyddwr y Staff Angharad Lee
Hyfforddwr Iaith Matteo dalle Fratte
Rheolwr Llwyfan Suzie Erith
Rheolwr y Cynhyrchiad Richard Norton

Mae’r cast yn cynnwys
Lefftenant B F Pinkerton Gwyn Hughes Jones
Goro trefnwr priodas Philip Lloyd Holtam
Suzuki Claire Bradshaw
Sharpless y Conswl o America Alan Opie
Cio-Cio-San (Madam Butterfly) Judith Howarth
Ei chyfnither Helen Greenaway
Ei mam Emma Mary Llewellyn
Yakuside ei hewythr George Newton-Fitzgerald
Ei Modryb Carolyn Jackson
Y Comisiynydd Ymerodrol Stephen Wells
Y Cofrestrydd Swyddogol Jack O’Kelly
Yr offeiriad Julian Close
Y Tywysog Yamadori Alastair Moore
Kate Pinkerton Sian Meinir
Nai Plentyn y gyfnither Daniel Blasizza / Johnny Robinson
Trouble Plentyn Cio-Cio-San Jacob Adams / Dylan Sullivan
Gwas a chogydd Derek Tilley and David Tilley

Corws o Geishas, perthnasau Cio-Cio-San, mynachod, gweision y Tywysog Yamadori a llongwyr

Pob perfformiad yn dechrau am 7.15pm (ac eithrio 2 a 9 Meh am 4pm)

Perfformiad yn para tua 2 awr 40 munud gan gynnwys un egwyl

Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (ac yn Gymraeg yng Nghaerdydd, Abertawe a Llandudno)

We have launched a new style of programme to reflect the company's themed seasons. You can purchase the combined programme for Lohengrin, Wagner Dream and Madam Butterfly for £5 on the night, or to pre-order your programme please call 029 2063 5032 at a cost of £6 including p&p.

Archwilio ar-lein