Prynu Tocynnau

Moses und Aron

Arnold Schoenberg

Cynhyrchiad newydd

Dychmygwch y eich bod yn cael clywed y peth pwysicaf a ddywedwyd wrth ddyn erioed. Bydd yr hyn a ddywedwyd wrthoch chi’n newid y byd ac yn achub dynol ryw. Rhaid i chi’n awr rannu’r hyn a ddywedwyd wrthoch, chi yw llefarydd Duw ar y ddaear. Dychmygwch, er hynny, eich bod wedi’ch llethu gan anobaith fel eich bod yn methu dod o hyd i’r geiriau iawn i fynegi ewyllys Duw. Mae eich brawd yn mabwysiadu rôl y llefarydd ond mae'n ystumio geiriau Duw. Dyma drasiedi Moses yn Moses und Aron.

Mae’n amhosib gwrando ar gampwaith Schoenberg a pheidio â chael eich syfrdanu gan ei gyflawniad. Mae Moses und Aron yn ymgyrraedd at derfynau eithaf yr hyn y gallai opera ei wneud yn y ganrif ddiwethaf. Mae’n sain mor unigryw, mor daer fel y gellid maddau i chi am feddwl ei bod wedi dod i lawr o’r nefoedd ei hun.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch o berfformio’r opera hon na chaiff ei pherfformio’n aml yn y cynhyrchiad dwys hwn gan Sergio Morabito a Jossi Wieler. Mae Moses und Aron yn fenter enfawr i’r perfformwyr a’r cynulleidfaoedd, fel ei gilydd, ond bydd y gwobrwyon yn eithriadol.

"Cafodd Moses und Aron ei disgrifio fel  ‘Cysyniad cwbl unigryw’. Mae'n bendant yn sialens gyffrous. Nid oes dim amheuaeth y bydd yn rhoi boddhad mawr i'r corws wrth iddo ei pherfformio. Dechreuom ddysgu’r sgôr yn yr hydref. Bydd y broses ddysgu gyfan wedi cymryd o leiaf 18 mis. Bydd yn werth e er hynny rwy’n sicr!”

Meistr y Corws, Stephen Harris

 

Beth am barhau eich siwrnai gydag ein rhaglen benodol o gyngherddau, digwyddiadau ac ychwanegion sy’n cloriannu thema pob tymor.

Pecynnau Cloriannu Ffydd

Archebwch ar gyfer y ddwy opera a chewch y pecyn arbennig hwn o ychwanegion:

Rhaglen ffydd

Cyfraddau gwestai arbennig 

Sgrysiau am ddim cyn y perfformiad

Cyn pob perfformiad o Moses und Aron a Nabucco.

Y Stori Gyflawn

Mae’r Stori Gyflawn yn gyflwyniad perffaith i’r tymor Ffydd. Cyn i’r perfformiadau ddechrau, bydd ein tîm o arbenigwyr yn eich tywys drwy gerddoriaeth, straeon a chefndir pob opera.

David Pountney yn Sgwrsio

David Pountney a ffigwr allweddol o’r celfyddydau yn cloriannu’r thema Ffydd. 

Arweinydd Lothar Koenigs
Cyfarwyddwyr Sergio Morabito a Jossi Wieler
Cynllunydd Anna Viebrock
Dylunydd Goleuo Gwreiddiol Michael Alber

Mae'r cast yn cynnwys 
Moses Richard Angas
Aron Rainer Trost
Morwyn Ifanc / Gwyryf Noeth Gyntaf Elizabeth Atherton
Dyn Ifanc Alexander Sprague
Dyn Arall / Ephramite Daniel Grice
Offeiriad David Soar

Mae pob perfformiad yn dechrau am 8pm ac eithrio 25 a 26 Gorffennaf

Maent yn para am oddeutu 1 awr 50 munud, heb egwyl

Maent y cael eu canu yn Almaeneg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd)

Mae’r cynhyrchiad yn hanu o Opera Stuttgart.

Archwilio ar-lein

Dinasoedd

Also This Season