Important Message

Just to let you know that this page is no longer being updated as this event is now in the past.

See all Archive Performances

Paul Bunyan

Benjamin Britten

Cynhyrchiad newydd

Mae dehongliad dychanol Britten ac Auden o’r freuddwyd Americanaidd yn dychwelyd i’r llwyfan mewn cynhyrchiad newydd lliwgar. I nodi canmlwyddiant geni’r cyfansoddwr mawr hwn, cyflwynwn y perfformiadau cyntaf gan Opera Ieuenctid yn Theatr Donald Gordon. Mae’r perfformiad godidog hwn yn cynnwys grymoedd Only Boys Aloud a Stephen Fry fel llais Paul Bunyan.

Os nad ydych chi eto wedi profi bywiogrwydd a rhagoriaeth Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae Paul Bunyan yn gyfle perffaith. Mae opereta Britten, sy’n cael ei gyrru ymlaen gan bresenoldeb dramatig y corws, yn chwarae i gryfderau’r ensemble eithriadol hwn.

Cefnogwyd Paul Bunyan gan y Britten-Pears Foundation, David Seligman OBE a Philippa Seligman gyda Rhodd Seligman, The Schafer Bursary, Paul & Marie Carson, The Gibbs Charitable Trust, The N Smith Charitable Settlement a’r Angus Allnatt Charitable Foundation , The Idlewild Trust, The Atlantic Foundation.

Ymddiriedolaeth Idlewild a Phartneriaeth WNO

"Mae Paul Bunyan yn opera rwyf fi wedi bod wrth fy modd â hi ers blynyddoedd – mae cerddoriaeth Britten yn ffraeth a syfrdanol. Bydd gwylio’r Opera Ieuenctid yn dod â hi’n fyw yn gwbl gyffrous i mi." Rhian Hutchings, Cyfarwyddwr WNO MAX 

Mae llefarydd yn disgrifio’r ffigwr chwedlonol enfawr a’r arwr gwerin Americanaidd, Paul Bunyan. 

Mae torwyr coed o bob cwr o Ewrop yn gweithio yn y gwersyll torri coed a sefydlwyd gan Bunyan , gan gynnwys criw o Swediaid ffraegar. Mae Hel Helson yn cael ei benodi fel eu goruchwyliwr ond mae’r gwersyll angen cogydd da i gymryd lle Sam a Ben, sydd ond yn gallu gwneud cawl a ffa. Maent yn recriwtio’r cathod, Moppet a Poppet, a’r ci, Fido, i helpu yn y gegin. Mae Johnny Inkslinger, gŵr prin o arian sydd yng ngofal y llyfrau, yn dymuno bod yn annibynnol yn hytrach na gweithio yn y gwersyll ond, yn amharod, mae’n cytuno i aros. Mae cowboi, Slim, yn cymryd yr awenau yn y gegin, gyda chymorth Tiny, merch Bunyan. Mae Inkslinger yn rhybuddio Bunyan y gallai Helson fod yn ddylanwad drwg a bod rhai o’r torwyr coed eisiau bod yn ffermwyr.

Mae Bunyan yn arwain criw o ddynion i ddod yn ffermwyr yn y tiroedd ffrwythlon ger mynydd Topsy-Turvy. Yn ei absenoldeb, mae Helson yn cael ei annog i ddwyn yr arweiniad oddi ar Bunyan. Pan mae Bunyan yn dychwelyd, mae Helson yn dechrau ymladd ag ef. Mae Tiny a Slim yn datgan eu cariad at ei gilydd. Mae Helson yn colli’r frwydr ac yn sefydlu heddwch gyda Bunyan.

Ar noswyl Nadolig, mae ymwahanu yn y gwersyll ac mae Inkslinger yn cyhoeddi y bydd Slim a Tiny yn priodi ac yn symud i Efrog Newydd i reoli gwesty ym Manhattan. Bydd Helson yn mynd am Washington i arwain y Cynllun Ffederal o waith cyhoeddus ac mae Inkslinger ei hun yn cael galwad o Hollywood, i fod yn ymgynghorydd technegol ar ffilm newydd am dorwyr coed.

Mae Paul Bunyan yn ffarwelio ac yn dweud wrth bawb mai’r hyn maen nhw’n dewis ei wneud ohono yw America.

Arweinydd Alice Farnham
Cyfarwyddwr Martin Constantine
Cynllunydd Cai Dyfan
Cyfarwyddwr Symudiadau Jem Treays

Mae cast yn cynnwys
Llais Paul Bunyan Stephen Fry
Corws y Coedwigwyr Only Boys Aloud

Mae'r perfformiadau'n dechrau am 7.30pm ac eithrio 24 Awst am 2.30pm.

Maent yn para am oddeutu 2 awr 20 munud, gan gynnwys un egwyl.

Maent yn cael eu canu yn Saesneg gydag uwchdeitlau Saesneg a Chymraeg.

Tocynnau £15 (O dan 30 oed £5)

Archwilio ar-lein