WNO Extra
Mae Sain Ddisgrifiad yn creu delweddau llafar byw i aelodau o'r gynulleidfa sy'n ddall neu'n rhannol ddall, gan roi cyfle iddynt gael blas o agweddau gweledol perfformiad yn llawn. Mae hyn yn cael ei gyfleu drwy glustffonau ysgafn, hawdd eu defnyddio y mae'r gwrandäwr yn eu gwisgo.
Mae'r Disgrifiwr Sain yn rhoi disgrifiad gweledol o'r hyn sy'n mynd ymlaen, mynegiannau'r wyneb ac iaith y corff yn fyw ac ar yr un pryd â'r perfformiad. Mae'n tywys y gwrandäwr drwy olygfeydd newydd, gwisgoedd, cydberthynas y cymeriadau â'i gilydd a ble maent yn sefyll. Mae steil y cynhyrchiad hefyd yn cael ei amlygu drwy ddisgrifio'r goleuadau, lleoliadau, awyrgylch a naws.
Nodiadau Cyn y Perfformiad
Dylech gymryd eich sedd 15 munud cyn i'r perfformiad ddechrau os hoffech glywed nodiadau cyn y perfformiad yn cael eu darllen yn fyw gan y Disgrifiwr Sain.
Bydd y nodiadau hyn yn egluro cefndir y cynhyrchiad, yn disgrifio'r set (gan gynnwys lliwiau, maint, gwead, a safle'r eitemau ar y llwyfan), yn cyflwyno'r prif gymeriadau (gan gynnwys pwy sy'n chwarae’r rôl, sut maent yn edrych, a beth maent yn ei wisgo), yn rhoi crynodeb byr o'r plot, a chrynodeb o bob act.
Teithiau Cyffwrdd
Mae Taith Gyffwrdd am ddim ar gael yn y rhan fwyaf o berfformiadau Sain Ddisgrifiad lle y gallwch fynd ar y llwyfan.
Dylech gyrraedd 15 munud cyn y daith - dylech wisgo esgidiau synhwyrol am ei fod yn ofyniad ar y llwyfan a chefn llwyfan.
"Mwynheais y perfformiad sain ddisgrifiad. Roedd y daith gyffwrdd yn ddefnyddiol iawn ac yn ddiddorol - set anhygoel. Roedd y disgrifiad sain o'r opera ei hun yn rhagorol a dyna oedd fy nghymhelliant dros fod eisiau mynd i'r opera.
Geraldine Bounds
Bydd teithiau cyffwrdd yn dechrau am 6pm, neu 2.45pm ar gyfer perfformiadau sy'n dechrau am 4pm. Mae’r disgrifiadau llafar a’r teithiau cyffwrdd yn rhad ac am ddim – archebwch le ar ein taith gyffwrdd a chlustffon wrth archebu eich tocynnau opera.
Hydref 2013
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Maria Stuarda dydd Sul 22 Medi 4pm
New Theatre Oxford
Maria Stuarda 17 Hydref
Liverpool Empire Theatre
Maria Stuarda dydd Iau 24 Hydref
The Bristol Hippodrome
Maria Stuarda Nos Iau 7 Tachwedd 7pm
Birmingham Hippodrome
Maria Stuarda Nos Iau 14 Tachwedd 7pm
The Mayflower, Southampton
Maria Stuarda Nos Iau 28 Tachwedd 7pm
Gwanwyn 2014
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Manon Lescaut Nos Sadwrn 22 Chwefror 7.15pm
Birmingham Hippodrome
Manon Lescaut Nos Wener 7 Mawrth 7.15pm
Milton Keynes Theatre
Manon Lescaut Nos Wener 14 Mawrth 7.15pm
The Mayflower, Southampton
Manon Lescaut Nos Wener 21 Mawrth 7.15pm
The Bristol Hippodrome
Manon Lescaut Nos Wener 11 Ebrill 7.15pm
Haf 2014
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Nabucco dydd Sul 8 Mehefin, 4pm
Birmingham Hippodrome
Nabucco Nos Sadwrn 21 Mehefin 7.15pm