Giacomo Puccini
Mae Floria Tosca yn sefyll yn syfrdan, ei dwylo gwaedlyd yn cydio mewn dagr. Awr cyn hynny roedd hi’n canu emynau yn yr eglwys. Sut ddaeth hi i’r fan hon?
Mae Tosca yn opera gyffrous sy’n symud yn gyflym. O’r bariau cyntaf ysgytwol, mae meistrolaeth Puccini yn eich rhoi ar flaen eich sedd ac yn eich cadw yno. Mae cynhyrchiad cyfnod clasurol Michael Blakemore yn dychwelyd gyda’r soprano Americanaidd Mary Elizabeth Williams a’r bariton o Awstria Claudio Otelli yn perfformio am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
"Iawn, rydych chi felly’n gwybod un aria o hon? Dydy hynny ddim yn ddigon! Rydych chi’n cael colled. Ar dân gyda cherddoriaeth ddramatig, mae’r Gerddorfa yn eich hyrddio at y drasiedi. Corws? Gwychder yn Act 1, tristwch pell yn Act 2. Byddai’n well i chi ei gweld. Dewch yn eich blaen, ewch amdani..."
Peter Harrap, Cyfarwyddwr y Corws a’r Gerddorfa
Sgyrsiau am ddim i bobl sy'n newydd i opera
Opera yn newydd i chi? Tosca yw’r lle perffaith i ddechrau. Ymunwch â ni am gyflwyniad arbennig i opera cyn rhai perfformiadau dewisol o Tosca.
Crynodeb
Rhufain, 1800
Act I
Y tu mewn i eglwys Sant’Andrea della Valle
Mae Angelotti, cyn gonswl Gweriniaeth Barthenopeaidd Napoli, wedi ei garcharu yn y Castel Sant’Angelo gan y Brenhinwyr sy’n ffyddlon i Frenhines Napoli dan ei phennaeth heddlu, y Barwn Scarpia. Mae chwaer Angelotti, y Marchesa Attavanti, wedi ei helpu i ddianc a chael lloches yn ei chapel teuluol mewn cuddwisg y mae hi wedi’i darparu. Mae Mario Cavaradossi, arlunydd, yn gweithio ar lun o Fair Magdalen, wedi’i fodelu ar wraig y mae’r Sacristan yn ei hadnabod fel ymwelydd diweddar â’r capel, y Marchesa ei hun. Mae Cavaradossi yn gweld tebygrwydd yn y llun i Marchesa ac i’w gariad, y soprano operatig Floria Tosca. Daw Angelotti allan o’i guddfan ac adnabod Cavardossi fel hen ffrind. Mae Cavaradossi yn addo ei helpu i ddianc, ond mae clywed Tosca yn galw ei enw o’r tu allan i’r eglwys yn torri ar ei draws. Mae Angelotti yn cuddio eto, a daw Tosca i mewn, yn llawn drwgdybiaeth ac eiddigedd ynghylch y sïon y mae wedi bod yn eu clywed. Mae Cavaradossi yn tawelu ei hofnau, ac mae’r ddau’n canu am eu serch at ei gilydd. Maent yn trefnu cwrdd y noson honno, ac mae Tosca’n gadael. Mae Cavardossi yn helpu Angelotti i gynllunio ei ddihangfa o Rufain pan mae ergyd o ganon yn tarfu arnynt: mae’n arwydd eu bod wedi darganfod ei fod ar goll o’r Castel Sant’Angelo. Penderfyna Cavaradossi guddio Angelotti yn ei fila ei hun y tu allan i Rufain.
Cyn gynted ag y byddant wedi gadael mae’r Sacristan yn dychwelyd gyda’r newyddion (ffals, fel mae’n digwydd) fod Napoleon wedi ei drechu. Mae’n synnu gweld nad yw Cavaradossi yno ddim mwy. Mae gorymdaith yn ffurfio ar gyfer y Te Deum defodol i ddathlu buddugoliaeth y Brenhinwyr dros y Ffrancwyr a’r Gweriniaethwyr, ond mae ymddangosiad sydyn Scarpia yn rhoi pen ar y paratoadau. Mae’n darganfod ffan ger offer paentio Cavaradossi ac mae arfbais Attavanti arni’n profi fod Angelotti wedi bod yn cuddio yn yr eglwys. Mae’r Sacristan yn dweud wrtho fod basged fwyd Cavaradossi yn awr yn wag, sy’n arwydd fod yr arlunydd, mae’n rhaid, wedi helpu’r ffoadur i ddianc. Dychwela Tosca i ddweud wrth Cavaradossi fod trefniant newydd, i ganu cantata i’r Frenhines Napoli yn y Palazzo Farnese fel rhan o ddathliadau’r fuddugoliaeth, yn ei rhwystro rhag cwrdd ag ef y noson honno. Mae ei absenoldeb o’r eglwys yn ennyn cenfigen ynddi unwaith yn rhagor. Mae Scarpia yn adeiladu ar hyn drwy ddangos ffan y Marchesa iddi, ac yn ei thwyllo i gredu fod Cavaradossi yn ei bradychu. Mae’n gadael am ei fila, lle mae’n ofni y bydd yn ei weld gyda’i chystadleuwraig. Mae Spoletta, asiant Scarpai, yn ei dilyn yno’n gudd. Wrth i’r Te Deum ddechrau, mae Scarpia’n cael fflach o weledigaeth sydyn: fe ddanfona Cavaradossi i’w farwolaeth ar grocbren, ac yr un pryd fe orfoda Tosca i ildio iddo.
Act II
Ystafelloedd Scarpia yn y Palazzo Farnese
Mae Scarpia yn eistedd yn cael ei swper ac yn cael blas anghyffredin ar feddwl am ei gynllun. Chwaraeir gavotte mewn man arall yn y palas, lle mae dathliadau’r Frenhines ar eu hanterth. Mae asiantiaid Scarpia yn dod â Cavaradossi i mewn i gael ei holi ond mae’n gwadu ei fod yn gwybod lle mae Angelotti. Wrth i Scarpia fwrw ymlaen â’i holi, clywir Tosca yn canu ei chantata. Mae Scarpia, sy’n mynd i nunlle gyda’r arlunydd, yn cau’r ffenest yn glep ac yn cau sŵn y gerddoriaeth allan. Daw Tosca yn fuan yn dilyn nodyn gan Scarpia yr anfonodd ef ati’n gynharach. Cymerir Cavaradossi i’r ystafell gyfagos a’i boenydio’n ddifrifol i wneud iddo ddatgelu cuddfan Angelotti. Nid yw Tosca’n gallu dioddef sŵn ei sgrechiadau ingol, ac mae’n dweud wrth Scarpia fod Angelotti’n cuddio yn y ffynnon yng ngardd fila Cavaradossi. Mae Scarpia’n gorchymyn dod â’r poenydio i ben, a deuir â Cavaradossi i mewn, yn dioddef yn enbyd o’i glwyfau. Ond daw newydd am fuddugoliaeth Napoleon ym Marengo, ac mae Cavaradossi’n adfywio digon i fynegi ei lawenydd. Mae hyn yn ddigon i arwyddo ei warant dienyddio, a chymerir ef i ffwrdd i’w ddienyddio. Mae Tosca yn erfyn ar Scarpia am drugaredd, a daw Spoletta â rhagor o newyddion: daethpwyd o hyd i Angelotti, ond ar adeg ei arestio fe’i lladdodd ei hun. Mae Scarpia’n dweud wrth Tosca mai tro ei chariad i farw fydd hi’n fuan, oni bai ei bod hi’n barod i roddi ei chymwynasau yn gyfnewid am ei fywyd. Mae Tosca’n cydsynio â’r fargen, ac mae Scarpia yn dweud wrth Spoletta am drefnu dienyddiad ffug, ond mae’n defnyddio neges ddirgel i nodi y dylai’r dienyddiad gael ei gynnal mewn gwirionedd. Mae Spoletta’n gadael. Mae Scarpia’n arwyddo gwarant o hebrwng diogel i Tosca a Cavaradossi, ond wrth iddo droi i’w chofleidio mae hi’n cydio mewn cyllell o’r bwrdd swper, ac yn ei drywanu i farwolaeth.
Act III
Llwyfan y Castel Sant’Angelo
Awr cyn y wawr, clywir bachgen o fugail yn canu yn y pellter. Deuir â Cavaradossi i fyny o’i gell, ac mae ei feddyliau olaf yn troi at Tosca. Mae hi’n cyrraedd, ar ôl gadael y palas heb gael ei gweld, ac yn dweud wrtho sut y trefnodd ddienyddiad ffug gyda Scarpia ac yna ei ladd. Mae’n rhaid iddo ffugio ei fod wedi marw wrth y ffiwsilâd, a gorwedd yno tan iddi ddod i ddweud wrtho ei bod yn ddiogel i fynd. Maent yn breuddwydio am eu hapusrwydd gyda’i gilydd yn y dyfodol. Mae’r milwyr yn ymddangos ar y llwyfan ac yn cynnal y dienyddiad. Wedi i’r fintai saethu adael, mae Tosca’n dweud wrth Cavaradossi am godi, ond nid yw’n ei hateb. Mewn arswyd, mae’n sylweddoli ei fod wedi marw a’i bod hi wedi cael ei bradychu. Mae’n clywed dynion Scarpia yn ei herlid hi: maent wedi dod o hyd i’w gorff. Mae Spoletta a’r milwyr yn rhuthro ar y llwyfan i’w harestio, ond mae’n dringo’r parapet ac yn neidio i’w marwolaeth.
Arweinydd Lothar Koenigs (21 Medi; 15, 19 a 22 Hyd; 12 ac 16 Tach)
Simon Phillippo (28 Medi; 3, 8, 12 a 26 Hyd; 5, 9, 19, 23, 26 a 30 Tach)
Cyfarwyddwr Michael Blakemore
Cynllunydd Ashley Martin-Davis
Cynllunydd Goleuo Mark Henderson
Mae'r cast yn cynnwys
Floria Tosca Mary Elizabeth Williams
Mario Cavaradossi Gwyn Hughes Jones
Scarpia Claudio Otelli
Angelotti Daniel Grice
Sacristan William Robert Allenby
Mae pob perfformiad yn dechrau am 7.15pm (ac eithrio 8 a 12 Hydref am 7pm)
Maent yn para am oddeutu 2 awr 45 munud gan gynnwys
Maent yn cael eu canu yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd, Abertawe a Llandudno)
Cydgynhyrchiad gyda'r State Opera of South Australia