Moses in Egypt playlist

Rhown yr addewid hon: mae Moses in Egypt yn syfrdanol. Mae dehongliad bel canto Rossini o stori’r Ecsodus yn llwyddo i ffrwyno cerddoriaeth sydd ar raddfa anferthol ac mor hyfryd. Mae’n bwerus ac yn ddwys, ac yn llwyddo i amlygu’r gwyrthiau sydd wrth wraidd yr opera hon. Y mae hefyd yn caniatáu i ni brofi’r berthynas anhygoel o wresog sydd gan Moses gyda’i Greawdwr a’i bobl. Cawn ymuno ar y daith a rhannu graddfa anhygoel eu tasg enbyd a brawychus.

Ond nid yw fyth yn llwm. Mae’r cynhyrchiad a ysbrydolwyd gan Chagall yn fyrlymog ac yn lliwgar. Er mor argoelus y mae’r cysgodion sy’n cau amdanom yn ymddangos, rydym yn gwybod y gallai rhyddid fod gyn lleied ag eiliad i ffwrdd.

  • Hyd – tua thair awr, gydag un egwyl
  • Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
  • Cyd-gynhyrchiad â Houston Grand Opera

Cefnogir gan y WNO Bel Canto Syndicate.

Ychwanegu sylw