12 Medi - 29 Tachwedd 2014

Mwy o wybodaeth Archebu Tocynnau

William Tell

Beth ydych chi’n ei wybod am William Tell? Mae pawb yn gyfarwydd a’r dôn afaelgar a ddefnyddiwyd fel arwyddgan y Lone Ranger. Mae nifer hefyd yn gwybod am yr olygfa eiconig pan mae Tell yn gyrru saeth drwy afal ar ben ei fab. Ond mae llawer mwy i’r opera hon, hefyd. Os ydych yn chwilio am noson o arwriaeth i’ch ysbrydoli, stori ingol ar raddfa epig, cerddoriaeth ddyrchafol, setiau ysblennydd a gwisgoedd trawiadol, fe welwch fod William Tell yn taro’r nod gyda meistrolaeth tra chywir.

Mae opera olaf Rossini’n cyfuno’r elfen fythol boblogaidd o oresgyniad gan wlad dramor gydag enghreifftiau aruchel o obaith a llonyddwch. Er mai fel comedïwr y mae Rossini yn adnabyddus yn bennaf, yma mae’n dangos ei ochr ddifrifol gyda stori sy’n newid, yn troi ac yn procio ein hemosiynau. Bydd y cynhyrchiad hwn yn gosod gwisgoedd gwerinol a thraddodiadol y Swistir yn erbyn gwisgoedd swyddogol oeraidd a llwyd Awstria. Mae dilyniannau godidog bale a goreograffwyd yn ychwanegu
at y gwrthgyferbyniad.

Mae ein harwr yn sefyll yn erbyn y tirwedd trwm a hudolus hwn. Fel canolbwynt dyhead diflino ei genedl, mae William Tell yn pwysleisio sut gall gwlad, unwaith y bydd yn feiddgar a pharod, ac yn union fel byd natur, orchfygu’r hyn sydd yn ei herbyn. Dim ond ennyd sydd ei hangen.

  • Hyd – tua phedair awr, gydag un egwyl
  • Cenir yn Ffrangeg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
  • Cyd-gynhyrchiad â Grand Théâtre de Genève, Houston Grand Opera a Teatr Wielki, Warsaw

Cefnogir gan David Speller, WNO Bel Canto Syndicate a ffrindiau WNO. 

Ychwanegu sylw