Gwasanaethau Theatrig Caerdydd
Mae Gwasanaethau Theatrig Caerdydd yn darparu gwasanaeth o safon ryngwladol mewn un man i gwmnïau opera a chynhyrchu.
Mae gan Swyddfa Dechnegol Opera Cenedlaethol Cymru ystod eang o gyfrifoldebau ar draws y sefydliad.
Ei phrif swyddogaeth yw paratoi, llwyfannu a chynnal cynyrchiadau newydd ac adfywio hen gynyrchiadau ar gyfer tymhorau’r Cwmni. Yn ystod y broses hon mae hefyd yn dod o hyd i’r staff technegol, yn gofalu am y trefnu a’r gweinyddu, ac yn cadw golwg ar waith Gwasanaethau Theatrig Caerdydd (adran adeiladu setiau’r Cwmni). Mae’r swyddfa dechnegol hefyd yn gyfrifol am gerbydau, yn cynnwys fflyd tryciau’r cwmni, yn ogystal â gweinyddu, llogi a chynnal holl eiddo’r cwmni. Mae personél y cwmni yn cynnwys y Cyfarwyddwr Technegol, y Rheolwr Technegol, Pennaeth y Cynhyrchu, Rheolwr y Cynhyrchu, yr Arolygydd Iechyd a Diogelwch a Gweinyddwr y Swyddfa Dechnegol.
Mae Gwasanaethau Theatrig Caerdydd yn darparu gwasanaeth o safon ryngwladol mewn un man i gwmnïau opera a chynhyrchu.