Llogi Cynyrchiadau | Welsh National Opera

Llogi Cynyrchiadau

Mae gan Opera Cenedlaethol Cymru repertoire eang o gynyrchiadau ar gael i’w llogi. Mae’r rhan fwyaf o’r setiau wedi’u hadeiladu gan Wasanaethau Theatrig Caerdydd, ein cyfleuster adeiladu setiau arbenigol, sydd ag enw da yn rhyngwladol am safon eu gwaith. Fel cwmni opera teithiol mae llawer o gynyrchiadau Opera Cenedlaethol Cymru wedi cael eu haddasu ar gyfer eu perfformio mewn mannau sy’n llai o faint.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddfa Dechnegol ar 029 2063 5022 neu technical@wno.org.uk