Llogi gwisgoedd

Os oes angen gwisg arnoch - p'un a yw hynny ar gyfer eich cynhyrchiad theatrig eich hun, ar gyfer priodas neu ar gyfer digwyddiad thema gwisg ffansi, mae'n eithaf siŵr y bydd gan Opera Cenedlaethol Cymru wisg sy'n gweddu i'ch anghenion.


Mae gennym gannoedd o ffrogiau, staesiau, siwtiau ac ategion. Rhwng peisiau a gwisgoedd cyfnod, gwerinwyr a milwyr, gwisgoedd hwyrol, tylwyth teg a saris, byddai'r ystod eang o wisgoedd sydd gennym yn addas i unrhyw fath o gynhyrchiad theatrig, o'r proffesiynol i'r amatur a chynyrchiadau myfyrwyr. Rydyn ni hefyd yn llogi gwisgoedd i gynyrchiadau ffilm a theledu yn ogystal â digwyddiadau personol fel priodasau a phartïon thema.


Mae ein cleientiaid blaenorol yn cynnwys y BBC, Warner Bros (Sherlock Holmes 2 – A Game of Shadows), National Theatre Wales, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Theatr Mappa Mundi a Theatr Hijinx.


Cysylltwch â'r tîm gwisgoedd os oes gennych unrhyw ymholiadau, drwy ebostio judith.russell@wno.org.uk, neu ffoniwch 07854 241246.