Anna Whitelock ar BBC Radio 4

13 Awst 2013

Pam parhau â’r holl obsesiwn hyn â’r Tuduriaid? Mae Anna Whitelock, yr hanesydd sy’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau Ffaith a Ffuglen mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ymchwilio i mewn i’r ffenomenon hwn mewn cyfweliad ar raglen BBC Radio 4 The World this Weekend

Cynhaliwyd y cyfweliad yn Audley End, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dywedodd Anna ynglŷn ag eiddo o’r fath: “mae medru mynd i leoedd lle y bu cymeriadau hanesyddol yn byw yn wefr i lawer o bobl”.

Trafododd Anna gyfres o dri Donizetti ar y Tuduriad a phaham yr ydym yn parhau i fod â chymaint o ddiddordeb yn hanes y teulu enwog hwn. “Y Tuduriaid oedd y sêr cyntaf... daeth hynt a helynt gwleidyddol Harri VIII yn yr ystafell wely yn achos rhwygiadau difrifol ledled Ewrop.”

Gwrandewch ar y cyfweliad yn llawn yma - bydd ar gael dros yr wythnos nesaf, gan gychwyn ar 24:41.