Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio yn Classic FM yn Fyw heno yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

14 Chwefror 2013

Fel rhan o’n partneriaeth gyda Classic FM rydym yn falch y bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio heno yn Classic FM yn Fyw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn ymuno â Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru drwy’r gyda’r nos fe fydd gwesteion arbennig gan gynnwys y tenor Wynne Evans a’r cyn delynores i’w Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru, Claire Jones. Ymunir â hwy gan y pianydd  HJ Li, a fydd yn perfformio Concerto Rhif 2 i’r Piano gan Rachmaninov, a wnaed yn enwog yn y ffilm Brief Encounter.


Gwrandewch ar y cyngerdd yn llawn ar Classic FM nos yfory am 8pm.


Mae Opera Cenedlaethol Cymru wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Classic FM i rannu grym opera fyw gyda ei chynulleidfaoedd.