Cyhoeddir mai Rebecca Afonwy-Jones yw Artist Cysylltiol newydd WNO

30 Awst 2013

David Soar. Robin Tritschler. Gary Griffiths. Dyma ambell ganwr sydd wedi cael teitl Artist Cysylltiol WNO, ac maen nhw’n datblygu gyrfaoedd rhyngwladol cyffrous iddyn nhw eu hunain. Yn awr bydd Rebecca Afonwy-Jones yn ymuno â’r grŵp clodfawr hwn fel ein Hartist Cysylltiol newydd.

Mae ein cynllun Artist Cysylltiol yn canfod cantorion ifanc o Brydain ac yn datblygu eu talent pan maen nhw ar ddechrau eu gyrfa. Mae ein Hartistiaid Cysylltiol yn gweithio ar gynyrchiadau ar raddfa fawr, perfformiadau ar gyfer Marchnata a Datblygu a nifer o brosiectau eraill. Cânt wersi preifat gan Russell Moreton, Pennaeth Cerddoriaeth,  a chan aelodau eraill o staff cerddoriaeth WNO, ynghyd â hyfforddiant iaith gan hyfforddwyr iaith gwadd. Rôl gyntaf Rebecca fel Artist Cysylltiol fydd chwarae rhan Anna Kennedy yn ein cynhyrchiad newydd o Maria Stuarda.

Ganwyd Rebecca yng Nghanolbarth Cymru, ac fe astudiodd yn y Guildhall School of Music and Drama ac yn y Royal Conservatoire yn yr Alban. Fel artist operatig a oedd yn prysur ddod i’r amlwg yn yr Alban, canodd rôl deitl Carmen, Fox yn Cunning Little Vixen, a Resi Intermezzo a Countess Ceprano yn Rigoletto. Eleni, chwaraeodd ran Iarlles Geschwitz yng nghynhyrchiad WNO o Lulu, ar ôl Anna Kennedy, ac ar gyfer y dyfodol, mae ei pherfformiadau fel Artist Cysylltiol yn cynnwys Flora yn La traviata a Sick Woman / 4th Naked Virgin yn Moses und Aron. 

Cefnogir Rebecca gan Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick, Gwobr Syr John Moores WNO, Bwrsari Chris Ball WNO, Bwrsari  Schaefer a Bwrsari’r teulu Parry.