David Pountney yn cael un o anrhydeddau pennaf Gwlad Pwyl

11 Ebrill 2013

Mae David Pountney wedi cael un o anrhydeddau pennaf Gwlad Pwyl mewn seremoni yn Fienna.  Cyflwynwyd Croes Cafalîr yr Urdd Teilyngdod iddo am ei gyfraniad at hyrwyddo diwylliant Pwylaidd.  David yw Arolygwr Gŵyl Bregenz, sy’n ŵyl celfyddydau perfformio a gynhelir bob haf yn Bregenz, Awstria. Mae sawl darn o waith gan artistiaid o Wlad Pwyl wedi cael eu cyflwyno yng Ngŵyl Bregenz yn ddiweddar, gan gynnwys King Roger gan Karol Szymanowski, The Passenger gan Mieczyslaw Weinberg a’r dangosiad cyntaf arfaethedig o The Merchant of Venice gan André Tchaikowsky.


Derbynnir tramorwyr, a Phwyliaid sy’n byw dramor yn barhaol, i Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl ar sail cyfraniadau eithriadol i gydweithredu rhyngwladol rhwng Gweriniaeth Gwlad Pwyl a chenhedloedd eraill. Cyflwynodd Arlywydd Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Mr Bronislaw Komorowski, y fedal i David, a ddywedodd: “Rwy’n hynod ddiolchgar ac yn ei chyfrif yn fraint fy mod i wedi cael y dyfarniad hwn.  Rwyf wrth fy modd fod Gŵyl Bregenz wedi gallu cyfrannu at ledaenu diwylliant Gwlad Pwyl”.