David Pountney yn ennill Croes Anrhydedd Awstria

22 Gorffennaf 2014

Bydd David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr WNO, yn cael ei anrhydeddu â Chroes Anrhydedd Awstria am Wyddoniaeth a Chelf, Dosbarth Cyntaf yng Ngŵyl Bregenz eleni. Sefydlwyd yr ŵyl hon yn 1946, ac yn ystod y  wŷl cynhelir amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cerddorol a theatraidd mewn lleoliadau gwahanol ar draws Bregenz.

Bu David yn Arolygwr Gŵyl Bregenz ers 2003, ond mi fydd yn rhoi’r gorau i’r rôl ar ôl gŵyl eleni. Cyflwynir y wobr i David gan Heinz Fischer, Arlywydd Awstria yn ystod seremoni agoriadol y wŷl yfory (23 Gorffennaf).

Ymysg y rhai sydd wedi ennill y wobr hon yn fwyaf diweddar mae’r actor Christoph Waltz a’r artist perfformio Marina Abramović.