David Pountney yn ennill gwobr gerddorol yn Awstria

18 Mehefin 2014

Nos Fawrth (17 Mehefin) enillodd Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig WNO, David Pountney, wobr Cyfarwyddwr Gorau Bluebeard’s Secret yng Ngwobrau Cerddoriaeth Theatr Awstria am ‘Spüren der Verirrten’ Philip Glass (Olion o’r rhai a gollodd eu ffordd) a agorodd yn y Tŷ Opera newydd yn Linz yn ystod gwanwyn y llynedd.

Yn ddiweddar mae David wedi cyfarwyddo The Fall of the House of Usher fel rhan o dymor haf WNO a bydd yn cyfarwyddo William Tell a Moses in Egypt yn nhymor yr hydref.