Diwrnod Rheoli’r Llwyfan

10 Hydref 2013

Ymunwch â ni heddiw wrth i ni ddathlu diwrnod Rheoli’r Llwyfan. Drwy’r wlad mae Rheolwyr Llwyfan yn codi’r llen ac yn eich croesawu gefn llwyfan, mewn dathliad dan arweiniad y Gymdeithas Rheoli Llwyfan. Am ddiwrnod mae’r sbotlamp wedi symud i’r ochrau yn Opera Cenedlaethol Cymru, wrth i ni roi cipolwg ar fywyd y tu ôl i’r llwyfan gyda Katie Jones, Rheolwr Llwyfan WNO, drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd gefn llwyfan ar noson agoriadol Maria Stuarda yn Theatr y Grand, Abertawe. Dilynwch y ddrama ar Twitter gan ddefnyddio #StageMgrs13, neu edrychwch ar ein tudalen Facebook. Hefyd, os ydych erioed wedi pendroni sut beth yw diwrnod arferol Rheolwr Llwyfan, anfonwch eich cwestiynau atom drwy ddefnyddio ein tudalennau Cyfryngau Cymdeithasu, ac mi wnaiff Katie ei gorau i’w hateb.