6 Mawrth 2013
Dyma Dafydd, a fydd yn ein cyfres blog newydd yn mynd â chi y tu ôl i’r llenni gyda chynhyrchiad mwyaf Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru hyd yn hyn, Paul Bunyan. Bydd Dafydd, sy’n fariton gydag Opera Ieuenctid y Cwmni, yn eich tywys o amgylch yr holl weithgareddau y tu ôl i’r llenni o’r ymarferion cyntaf at y noson agoriadol. Ymunwch â Dafydd wrth i’r cynhyrchiad ddod at ei gilydd, a chanfod mwy am opera Britten sy’n adrodd hanes y coedwigwr Paul Bunyan, sy’n cael ei pherfformio gan ein cwmni ieuenctid ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant.
Dechreuwch eich taith y tu ôl i'r llenni gyda Paul Bunyan...