Enwebu Opera Cenedlaethol Cymru yn y Gwobrau Opera

18 Chwefror 2013

Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wedi ei enwebu ar gyfer y Gwobrau Opera cyntaf erioed. Mae’r gwobrau, a sefydlwyd gan olygydd y Cylchgrawn Opera, John Allison, a’r edmygydd opera, Harry Hyman, yn ddathliad ar opera a gynhelir ar 22 Ebrill yn Llundain. Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi ei enwebu yn y categori Hygyrchedd ynghyd â Streetwise Opera, Metropolitan Opera a Teatro Sociale di Como. Rydym yn falch ein bod wedi’n henwebu yn y categori hwn sy’n cydnabod ein gwaith yn y gymuned a’n hymrwymiad i annog mwy o bobl i roi cynnig ar opera. Rydym wrth ein boddau hefyd fod  Sophie Bevan, y Vixen yn The Cunning Little Vixen, wedi ei henwebu fel y Canwr Ifanc.


Dewch o hyd i fwy am y Gwobrau Opera a’r rhestrau byr llawn  yma.