Gwaith cydweithredol WNO ar gyfer yr haf yn amlygu doniau dawnsio ymhlith yr ifanc

22 Gorffennaf 2013

Yn ystod yr haf hwn, mae WNO yn falch o gydweithio â Dawns Genedlaethol Cymru ac Actifyddion Artistig Cyngor Caerdydd, i gyflwyno Summerdance yn y Theatr Newydd, Caerdydd.

Mae Summerdance yn cychwyn gydag wythnos o hyfforddiant dwys ar gyfer perfformwyr ifanc wrth iddynt nhw greu darn cwbl newydd mewn wythnos yn unig. Bydd y cwmni o 40 o berfformwyr ifanc yn dawnsio i gerddoriaeth gan Jak Poore, a berfformir gan offerynwyr ifanc ochr yn ochr â’n Cerddorfa.

Y canlyniad yw noson fawreddog o ddawnsio a cherddoriaeth, gyda’r tri chynhyrchiad yn dod ynghyd. I ddysgu rhagor am y prosiect hwn neu i archebu tocynnau, ewch i dudalen summerdance.