Gwobr 'Achievement in Opera' TMA

20 Hydref 2013

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi ennill Gwobr 'Achievement in Opera' TMA ar gyfer ei gynyrchiadau yn 2013 o Lulu a Lohengrin, dan arweinyddiaeth Lothar Koenigs.

Prynhawn yma, cafodd WNO ei gyflwyno gyda'r wobr fawreddog mewn seremoni yn Guildhall yn Llundain. Derbyniwyd y wobr ar ran y cwmni gan Lothar Koenigs, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO.